Part of the debate – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 25 Medi 2018.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd.
Y farn gyffredinol sydd wedi bod, am gyfnod rhy hir, yw nad yw system atebolrwydd addysg Cymru wedi cael yr effaith a ddymunir o ran codi safonau. Yn wir, mewn rhai achosion, mae wedi arwain at ganlyniadau anfwriadol ag effeithiau niweidiol ar addysg disgyblion unigol. Mae'r canlyniadau anfwriadol hyn yn hen gyfarwydd. O ysgolion yn canolbwyntio'n ormodol ar ffin fympwyol gradd C heb hidio am gynnydd na gallu'r disgyblion, i achosion lle mae ysgolion yn canolbwyntio cymaint ar yr hyn y maen nhw'n credu y cânt eu dwyn i gyfrif amdano fel eu bod wedi cyfyngu ar y cwricwlwm i raddau annerbyniol. Mae ein cynllun gweithredu cenhadaeth cenedlaethol yn amlinellu ein gweledigaeth ar gyfer system asesu a gwerthuso sy'n deg, yn gydlynol ac yn seiliedig ar ein gwerthoedd cyffredin ar gyfer addysg yng Nghymru. Mae'r dystiolaeth ryngwladol a'r genadwri yng Nghymru yn eglur: mae'n rhaid inni sicrhau dull cydlynol sy'n osgoi'r canlyniadau anfwriadol hynny ac yn cyfrannu at godi safonau yn ein hystafelloedd dosbarth, gan ein holl athrawon, ar gyfer ein holl ddysgwyr.
Rwyf eisoes wedi gweithredu, er enghraifft wrth fynd i'r afael â'r defnydd anghywir o sefyll arholiad TGAU yn gynnar a chyhoeddi mesurau perfformiad newydd dros dro a throsiannol ar gyfer ysgolion uwchradd, i sicrhau bod pob plentyn yn cyfrif ni waeth beth fyddo ei gefndir na'i allu. Bydd y fframwaith cyffredinol ar gyfer asesu a gwerthuso yn cael ei gyhoeddi'r flwyddyn nesaf ochr yn ochr â meysydd cwricwlwm newydd dysgu a phrofiad. Bydd yn disgrifio sut y caiff dysgwyr eu hasesu mewn ysgolion, sut y bydd athrawon yn cael eu harfarnu a'r trefniadau gwerthuso ar gyfer y system yn ei chyfanrwydd.
Heddiw, Dirprwy Lywydd, rwy'n falch o gael rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr am y modd yr ydym yn cyflawni'r ymrwymiad i ddatblygu a chyhoeddi gwerthusiad newydd a gwella trefniadau ar gyfer y system addysg gyfan. Bydd gan y trefniadau bedair elfen integredig a fydd yn gymwys i ysgolion, consortia rhanbarthol a Llywodraeth Cymru fel ei gilydd. Y rhain yw hunanwerthuso, adolygiad a dilysu gan gymheiriaid, dangosyddion gwerthuso, a chyhoeddi cynllun gweithredu.
Fel yn achos llawer o'r systemau addysg sy'n perfformio orau yn y byd, mae hunanwerthuso cadarn a pharhaus yn rhoi mecanwaith ar gyfer gwelliant. Mae'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad Economaidd a Datblygu ac Estyn yn gweithio gydag ymarferwyr i gynllunio fframwaith o hunanwerthuso, a fydd yn sicrhau cydlyniad, meini prawf ac iaith gyffredin er mwyn hunanarfarnu ar gyfer ysgolion, awdurdodau lleol, consortia, Estyn a Llywodraeth Cymru. Bydd yn ofynnol i ysgolion hunanwerthuso mewn nifer o feysydd, er enghraifft eu heffaith ar gyrhaeddiad disgyblion ac ar eu lles, ehangder y cwricwlwm, eu gallu i ennyn gwelliant a'u heffeithiolrwydd i gydweithio ag ysgolion eraill.
Prif ddiben ein dull o hunanarfarnu yw nodi meysydd llwyddiant a methiant, lle gellir rhannu arfer da ac, yn bwysig iawn, lle gall methiannau gael sylw ar fyrder. Rwy'n glir hefyd y bydd yn rhaid i'r broses hunanarfarnu fod â safbwynt allanol os bydd i elwa ar yr her angenrheidiol sy'n anhepgor. Felly, ein bwriad yw y bydd pob ysgol yn cael eu hunanarfarniadau wedi'u gwirio. Caiff hunanarfarniad yr ysgol ei drafod yn flynyddol gyda'r consortia i benderfynu ar lefel y cymorth sydd ei angen ar yr ysgol neu lefel y cymorth y gall ei roi i ysgolion eraill. Ar ben hynny, y gobaith yw y bydd yr hunanarfarnu hwn yn cael ei wirio gan Estyn wedyn yn rhan o'u proses arolygu newydd. Yn bwysig iawn, gan y bydd disgwyl i hunanarfarnu'r ysgol gael ei adolygu gan ysgolion eraill, bydd hyn yn ein helpu i ddatblygu ein diwylliant o bartneriaeth a chymorth rhwng ysgol ac ysgol, gan ehangu capasiti hefyd ledled clystyrau o ysgolion fel eu bod yn raddol yn cymryd mwy o gyfrifoldeb am eu datblygiad eu hunain.
Nid wyf am achub y blaen ar ganlyniad y datblygiadau y mae'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, Estyn a'r proffesiwn yn gweithio arnynt. Serch hynny, rwyf yn disgwyl i hunanarfarnu'r ysgolion fod yn eang a chynnwys meysydd pwysig megis ansawdd yr arweinyddiaeth mewn ysgol, ansawdd yr addysgu a'r dysgu, lles disgyblion, yn ogystal â sut mae ysgolion yn cefnogi pedwar diben y cwricwlwm, ymysg meysydd eraill. Bydd hyn yn rhoi llawer mwy o wybodaeth inni am sut mae'r ysgol yn gweithredu, uwchlaw a thu hwnt i'r sgôr lefel 2 cynhwysol yn unig sydd wedi celu'n rhy hir berfformiad llawer gormod o garfannau o blith ein disgyblion, yn ein sector uwchradd yn arbennig. O ran amlygrwydd yr wybodaeth hon, bydd canlyniad yr hunanarfarnu a'r dilysu yn ymddangos mewn cynllun datblygu ysgol tair blynedd. Ein bwriad yw y bydd pob ysgol yn cyhoeddi crynodeb o gynllun datblygu ysgol i rannu'r wybodaeth honno gyda'r rhieni a'r gymuned yn ehangach. Mae'n ymwneud â darparu cyfres fwy deallus o drefniadau gwerthuso a gwelliant ac rwy'n hyderus y bydd y prosesau adolygu a dilysu gan gymheiriaid yn gwneud hyn.
Fel y soniais yn gynharach, bydd y trefniadau hyn yn berthnasol hefyd i haenau eraill y system hefyd. Byddaf yn disgwyl i'r consortia rhanbarthol hunanwerthuso yn ôl y cynllun busnes a gytunwyd ganddynt a mynd drwy adolygiad blynyddol gan gymheiriaid gyda'r consortia eraill. Canlyniad yr hunanarfarnu fydd datblygiad cynllun gweithredu tair blynedd, a fydd yn ddarostyngedig i waith craffu a chymeradwyo fel rhan o'r trefniadau llywodraethu presennol fel yr amlinellwyd yn y model cenedlaethol ar gyfer gweithio yn rhanbarthol, gydag Estyn yn dilysu'r hunanarfarnu. Bydd disgwyl i'r consortia gyhoeddi crynodeb o'u cynlluniau gweithredu yn flynyddol i rannu gwybodaeth gydag ysgolion ac awdurdodau cyfansoddol lleol y consortia.
Yn olaf, Dirprwy Lywydd—ac rwy'n gobeithio y bydd Aelodau'r Siambr hon yn croesawu hyn—ar lefel genedlaethol, bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn hunanwerthuso yn ôl amcanion a chamau gweithredu o fewn ein cenhadaeth genedlaethol ac yn cynhyrchu adroddiad hunanarfarnu. Bydd yr adroddiad hunanarfarnu yn cael ei adolygu gan gymheiriaid sy'n aelodau o'r Atlantic Rim Collaboratory, sy'n cynnwys systemau addysg blaenllaw megis y Ffindir, Iwerddon a thaleithiau a rhanbarthau yng Ngogledd America. Rwy'n bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r cynllun gweithredu a hunanarfarnu ar ffurf adroddiad ar addysg yng Nghymru erbyn diwedd y flwyddyn hon, a byddaf yn rhoi diweddariad pellach i'r Aelodau ar y gwaith hwn yn y misoedd nesaf.