– Senedd Cymru am 2:52 pm ar 25 Medi 2018.
Eitem 3 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: y trefniadau gwerthuso a gwella. Rwy'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd.
Y farn gyffredinol sydd wedi bod, am gyfnod rhy hir, yw nad yw system atebolrwydd addysg Cymru wedi cael yr effaith a ddymunir o ran codi safonau. Yn wir, mewn rhai achosion, mae wedi arwain at ganlyniadau anfwriadol ag effeithiau niweidiol ar addysg disgyblion unigol. Mae'r canlyniadau anfwriadol hyn yn hen gyfarwydd. O ysgolion yn canolbwyntio'n ormodol ar ffin fympwyol gradd C heb hidio am gynnydd na gallu'r disgyblion, i achosion lle mae ysgolion yn canolbwyntio cymaint ar yr hyn y maen nhw'n credu y cânt eu dwyn i gyfrif amdano fel eu bod wedi cyfyngu ar y cwricwlwm i raddau annerbyniol. Mae ein cynllun gweithredu cenhadaeth cenedlaethol yn amlinellu ein gweledigaeth ar gyfer system asesu a gwerthuso sy'n deg, yn gydlynol ac yn seiliedig ar ein gwerthoedd cyffredin ar gyfer addysg yng Nghymru. Mae'r dystiolaeth ryngwladol a'r genadwri yng Nghymru yn eglur: mae'n rhaid inni sicrhau dull cydlynol sy'n osgoi'r canlyniadau anfwriadol hynny ac yn cyfrannu at godi safonau yn ein hystafelloedd dosbarth, gan ein holl athrawon, ar gyfer ein holl ddysgwyr.
Rwyf eisoes wedi gweithredu, er enghraifft wrth fynd i'r afael â'r defnydd anghywir o sefyll arholiad TGAU yn gynnar a chyhoeddi mesurau perfformiad newydd dros dro a throsiannol ar gyfer ysgolion uwchradd, i sicrhau bod pob plentyn yn cyfrif ni waeth beth fyddo ei gefndir na'i allu. Bydd y fframwaith cyffredinol ar gyfer asesu a gwerthuso yn cael ei gyhoeddi'r flwyddyn nesaf ochr yn ochr â meysydd cwricwlwm newydd dysgu a phrofiad. Bydd yn disgrifio sut y caiff dysgwyr eu hasesu mewn ysgolion, sut y bydd athrawon yn cael eu harfarnu a'r trefniadau gwerthuso ar gyfer y system yn ei chyfanrwydd.
Heddiw, Dirprwy Lywydd, rwy'n falch o gael rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr am y modd yr ydym yn cyflawni'r ymrwymiad i ddatblygu a chyhoeddi gwerthusiad newydd a gwella trefniadau ar gyfer y system addysg gyfan. Bydd gan y trefniadau bedair elfen integredig a fydd yn gymwys i ysgolion, consortia rhanbarthol a Llywodraeth Cymru fel ei gilydd. Y rhain yw hunanwerthuso, adolygiad a dilysu gan gymheiriaid, dangosyddion gwerthuso, a chyhoeddi cynllun gweithredu.
Fel yn achos llawer o'r systemau addysg sy'n perfformio orau yn y byd, mae hunanwerthuso cadarn a pharhaus yn rhoi mecanwaith ar gyfer gwelliant. Mae'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad Economaidd a Datblygu ac Estyn yn gweithio gydag ymarferwyr i gynllunio fframwaith o hunanwerthuso, a fydd yn sicrhau cydlyniad, meini prawf ac iaith gyffredin er mwyn hunanarfarnu ar gyfer ysgolion, awdurdodau lleol, consortia, Estyn a Llywodraeth Cymru. Bydd yn ofynnol i ysgolion hunanwerthuso mewn nifer o feysydd, er enghraifft eu heffaith ar gyrhaeddiad disgyblion ac ar eu lles, ehangder y cwricwlwm, eu gallu i ennyn gwelliant a'u heffeithiolrwydd i gydweithio ag ysgolion eraill.
Prif ddiben ein dull o hunanarfarnu yw nodi meysydd llwyddiant a methiant, lle gellir rhannu arfer da ac, yn bwysig iawn, lle gall methiannau gael sylw ar fyrder. Rwy'n glir hefyd y bydd yn rhaid i'r broses hunanarfarnu fod â safbwynt allanol os bydd i elwa ar yr her angenrheidiol sy'n anhepgor. Felly, ein bwriad yw y bydd pob ysgol yn cael eu hunanarfarniadau wedi'u gwirio. Caiff hunanarfarniad yr ysgol ei drafod yn flynyddol gyda'r consortia i benderfynu ar lefel y cymorth sydd ei angen ar yr ysgol neu lefel y cymorth y gall ei roi i ysgolion eraill. Ar ben hynny, y gobaith yw y bydd yr hunanarfarnu hwn yn cael ei wirio gan Estyn wedyn yn rhan o'u proses arolygu newydd. Yn bwysig iawn, gan y bydd disgwyl i hunanarfarnu'r ysgol gael ei adolygu gan ysgolion eraill, bydd hyn yn ein helpu i ddatblygu ein diwylliant o bartneriaeth a chymorth rhwng ysgol ac ysgol, gan ehangu capasiti hefyd ledled clystyrau o ysgolion fel eu bod yn raddol yn cymryd mwy o gyfrifoldeb am eu datblygiad eu hunain.
Nid wyf am achub y blaen ar ganlyniad y datblygiadau y mae'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, Estyn a'r proffesiwn yn gweithio arnynt. Serch hynny, rwyf yn disgwyl i hunanarfarnu'r ysgolion fod yn eang a chynnwys meysydd pwysig megis ansawdd yr arweinyddiaeth mewn ysgol, ansawdd yr addysgu a'r dysgu, lles disgyblion, yn ogystal â sut mae ysgolion yn cefnogi pedwar diben y cwricwlwm, ymysg meysydd eraill. Bydd hyn yn rhoi llawer mwy o wybodaeth inni am sut mae'r ysgol yn gweithredu, uwchlaw a thu hwnt i'r sgôr lefel 2 cynhwysol yn unig sydd wedi celu'n rhy hir berfformiad llawer gormod o garfannau o blith ein disgyblion, yn ein sector uwchradd yn arbennig. O ran amlygrwydd yr wybodaeth hon, bydd canlyniad yr hunanarfarnu a'r dilysu yn ymddangos mewn cynllun datblygu ysgol tair blynedd. Ein bwriad yw y bydd pob ysgol yn cyhoeddi crynodeb o gynllun datblygu ysgol i rannu'r wybodaeth honno gyda'r rhieni a'r gymuned yn ehangach. Mae'n ymwneud â darparu cyfres fwy deallus o drefniadau gwerthuso a gwelliant ac rwy'n hyderus y bydd y prosesau adolygu a dilysu gan gymheiriaid yn gwneud hyn.
Fel y soniais yn gynharach, bydd y trefniadau hyn yn berthnasol hefyd i haenau eraill y system hefyd. Byddaf yn disgwyl i'r consortia rhanbarthol hunanwerthuso yn ôl y cynllun busnes a gytunwyd ganddynt a mynd drwy adolygiad blynyddol gan gymheiriaid gyda'r consortia eraill. Canlyniad yr hunanarfarnu fydd datblygiad cynllun gweithredu tair blynedd, a fydd yn ddarostyngedig i waith craffu a chymeradwyo fel rhan o'r trefniadau llywodraethu presennol fel yr amlinellwyd yn y model cenedlaethol ar gyfer gweithio yn rhanbarthol, gydag Estyn yn dilysu'r hunanarfarnu. Bydd disgwyl i'r consortia gyhoeddi crynodeb o'u cynlluniau gweithredu yn flynyddol i rannu gwybodaeth gydag ysgolion ac awdurdodau cyfansoddol lleol y consortia.
Yn olaf, Dirprwy Lywydd—ac rwy'n gobeithio y bydd Aelodau'r Siambr hon yn croesawu hyn—ar lefel genedlaethol, bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn hunanwerthuso yn ôl amcanion a chamau gweithredu o fewn ein cenhadaeth genedlaethol ac yn cynhyrchu adroddiad hunanarfarnu. Bydd yr adroddiad hunanarfarnu yn cael ei adolygu gan gymheiriaid sy'n aelodau o'r Atlantic Rim Collaboratory, sy'n cynnwys systemau addysg blaenllaw megis y Ffindir, Iwerddon a thaleithiau a rhanbarthau yng Ngogledd America. Rwy'n bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r cynllun gweithredu a hunanarfarnu ar ffurf adroddiad ar addysg yng Nghymru erbyn diwedd y flwyddyn hon, a byddaf yn rhoi diweddariad pellach i'r Aelodau ar y gwaith hwn yn y misoedd nesaf.
Diolch. Suzy Davies.
Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddim ond dweud fy mod yn bendant yn croesawu'r datganiad hwn? Mae unrhyw beth sydd o blaid gwella ac amlygu'r gwelliant o ran safonau yn rhywbeth rwy'n siŵr y bydd pawb yn awyddus i glywed ychydig mwy amdano.
Efallai y caf i ofyn i chi i ddechrau—rydych yn dweud y byddwn yn cael y newyddion diweddaraf ar hyn eto pan fydd y meysydd cwricwlwm dysgu a phrofiad yn cael eu cyhoeddi, rwy'n credu y daw hynny fis Ebrill y flwyddyn nesaf. A wnewch chi ddweud wrthym a yw hynny'n gywir yn fras ac, os felly, pa mor anodd fydd hi i'r gwaith adolygu gan gymheiriaid a grybwyllwyd gennych ar ddiwedd eich datganiad gael ei gynhyrchu erbyn diwedd y flwyddyn? Nid yw'n ymddangos fod hynny'n rhoi llawer iawn o amser iddyn nhw i fynd i'r afael â'r system newydd hon.
Croesawaf yn arbennig hefyd y gydnabyddiaeth o'r canlyniadau anfwriadol, ond, gellid dadlau, ganlyniadau rhagweladwy yn sgil y system bresennol sydd wedi bod yn canolbwyntio'n ormodol ar y ffin rhwng graddau C a D ac ar sefyll arholiadau yn gynnar, deubeth a godwyd gennym yn y ddadl yr wythnos diwethaf. Yn y ddadl honno, roeddem ni hefyd yn herio'r honiad na ellid cymharu safonau o flwyddyn i flwyddyn oherwydd—yn yr achos hwnnw, roeddem yn sôn am gymwysterau, ond roeddem ni'n dweud y gallech chi gymharu o hyd, oherwydd roedd adroddiad Cymwysterau Cymru wedi dweud wrthym fod y safonau yn sefydlog. Yr hyn yr wyf yn chwilio amdano, rwy'n credu, yw rhyw fath o sicrwydd na fydd y newid yn y system hon yn ei gwneud yn anodd i ni gymharu canfyddiadau ar welliant neu fethiant ar gyfer gwella'r hyn sydd i ddod a'r hyn sydd wedi bod eisoes. Gwyddoch eisoes am ein pryderon ynghylch ailgategoreiddio yn cuddio rhai methiannau o bosibl o ran gwelliant, ac, fel yr ydym wedi ei glywed gydag amseroedd ymateb ambiwlansys, mae newid y rheolau yn gallu cuddio profiad cyfansoddol cynyddol ofidus. Rydym yn dymuno osgoi'r sefyllfa honno gyda'r newidiadau hyn, sydd, fel y dywedaf, ar yr wyneb, yn ymddangos eu bod i'w croesawu'n fawr. Mae gennym ni ddyletswydd i graffu arnoch, a gwn fy mod yn newydd yn y swydd hon ar hyn o bryd, ond rwy'n ei chael yn anodd ar hyn o bryd i ddod o hyd i bwyntiau o gymhariaeth rhwng y system sydd gennym ar hyn o bryd a'r newidiadau y cawsom ni syniad ohonyn nhw gennych chi yn eich datganiad ysgrifenedig fis Mai. Felly, yn amlwg, gobeithio y byddaf yn dod yn well am gymharu, ond pe byddech yn rhoi peth sicrwydd i ni, fel y dywedaf, ein bod yn mynd i allu gweld cymhariaethau rhwng y system hon a'r un flaenorol—.
A fydd y gwerthusiad yn cynnwys effaith y pwyslais ar bynciau academaidd dros gynigion galwedigaethol o ansawdd da? Codais hyn unwaith eto yn y ddadl yr wythnos diwethaf, pryd y gwelsom fod y gostyngiad yn nifer y ceisiadau gan fyfyrwyr gwannach ar gyfer lefel A yn amlwg wedi gwella'r ystadegau ar gyfer lefel A, tra bod cynnydd yn y niferoedd sy'n dewis gwyddorau ar gyfer TGAU wedi gweld cwymp yn y ganran o ganlyniadau graddau A i C. Felly, fel rhan o'r newid hwn i werthuso ansawdd yr arweinyddiaeth yn well, a chan mai rheolaeth ysgolion yw un o'r rhesymau ein bod wedi cael trwch o hysbysiadau rhybuddio, y cyfeiriwyd at hyn yn y ddadl yr wythnos diwethaf hefyd, a wnewch chi ddweud wrthym pe byddai arweinyddion yr ysgolion, ar sail fesul disgybl, yn penderfynu bod disgybl mewn sefyllfa well, os hoffech chi, i ddewis pwnc galwedigaethol yn hytrach nag academaidd, neu arholiad, mae'n ddrwg gennyf, na fydd hynny'n effeithio ar ystadegau gwerthuso'r ysgol? Oherwydd ystyr arweinyddiaeth dda yw cael y gorau allan o bob disgybl, ac, wrth gwrs, nid yw pynciau academaidd yn addas ar gyfer pawb.
Rwy'n falch o weld bod y gwerthusiad yn gymwys i gonsortia rhanbarthol ac, yn wir, i Lywodraeth Cymru. Efallai fod hunanwerthuso, wrth gwrs, yn nodwedd o'r arfer gorau, ond fe ddaw â'i beryglon ei hun, ac rwyf fel petawn yn cofio bod adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, rwy'n mynd yn ôl ychydig o flynyddoedd nawr, wedi canfod bod ysgolion yng Nghymru yn tueddu i fod yn rhy hael gyda nhw eu hunain o ran hunanarfarnu eu perfformiad ar ddisgyblaeth. Felly, rwy'n llwyr groesawu'r syniad hwn o adolygiad gan gymheiriaid, yn enwedig y sylwadau terfynol yn eich datganiad. Ond a gaf i ofyn a fydd yn caniatáu am elfen o—wel, mae 'croesbeillio' wedi cael ei ysgrifennu yma gennyf i, ond yr hyn yr wyf yn ei olygu gyda hynny yw: a fydd ysgolion, wrth werthuso eu hunain, yn cael caniatâd i wneud sylwadau am eu perthynas gyda'r consortia ysgolion, gyda her ysgolion, hyd yn oed gyda'r awdurdodau lleol, efallai gyda Llywodraeth Cymru hyd yn oed, oherwydd mae'r rhain i gyd yn gysylltiadau a ddylai arwain at safonau gwell mewn ysgolion? Felly, byddem yn hoffi iddyn nhw gael y rhyddid i fod yn onest am y cysylltiadau hynny ac, yn yr un modd, i'r cyrff eraill hynny fod â'r rhyddid i fod yn onest am eu perthynas â rhai ysgolion penodol hefyd.
Ac yna, yn olaf, roeddech chi'n sôn am amlygrwydd—neu efallai mai eglurdeb yw'r hyn yr wyf â mwy o ddiddordeb ynddo, oherwydd mae'r byd cyfan hwnnw o deuluoedd ysgol a chwarteli wedi cael ei ysgrifennu mewn iaith o blaned arall i bob pwrpas yng ngolwg y teuluoedd. Felly, er bod y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad Economaidd a Datblygiad wedi awgrymu efallai mai diben asesiad o berfformiad disgyblion yw nodi eu cryfderau a'u gwendidau er mwyn eu helpu i wella, credaf ei bod yn realistig disgwyl i deuluoedd fod yn awyddus i ddeall sut mae ysgol yn ei chyfanrwydd yn perfformio hefyd. Felly, sut fyddwch yn sefydlu pa wybodaeth sy'n bwysig i deuluoedd a sut fydd yr wybodaeth honno yn cael ei chynnwys yn y crynodeb o gynllun datblygu'r ysgol? Ys gwn i: a oes unrhyw gyfle, efallai, am rywfaint o ganllawiau ar gyfer hynny i gydredeg â'r dangosyddion gwerthuso newydd? Oherwydd mae ansawdd y cyfathrebu rhwng ysgolion a theuluoedd yn beth sy'n werth ei werthuso, yn fy marn i—efallai nid fel rhan o hyn o reidrwydd, ond os oes rhyw ffordd y gellir ymgorffori hynny yn yr hyn yr ydym yn edrych arno i'r dyfodol, byddai hynny'n ddefnyddiol iawn. Diolch.
A gaf i ddiolch i Suzy Davies am y cwestiynau hynny? Dirprwy Lywydd, nid yw hi'n gwneud cyfiawnder â hi ei hun drwy ganolbwyntio ar y ffaith ei bod yn newydd i'r swydd. Rwyf i o'r farn bod y pwyntiau yr ydych wedi eu codi yn bethau gwir berthnasol a phwysig y mae angen inni eu trafod.
Os caf i ddim ond mynd trwyddyn nhw mor fanwl ag y gallaf, rwy'n credu bod yna—. Yr hyn y mae'r Aelod yn ei gyfuno yw'r fframwaith asesu a gwerthuso, a gyhoeddir yn y gwanwyn. Mae hynny'n rhan o'n gwaith ar ddatblygu'r cwricwlwm newydd. Yr hyn y mae angen inni ei wneud wrth ddatblygu cwricwlwm newydd yw nid canolbwyntio ar gynnwys yn unig, er bod hynny'n bwysig iawn, mae'n amlwg, ond mewn gwirionedd ar sut y byddwn yn mesur cynnydd plant unigol yn ôl y cynnwys hwnnw. Bydd yr Aelodau yn ymwybodol o—ac weithiau maen nhw'n codi gyda mi—y materion ynghylch yr Alban. Credaf mai un o'r gwersi yr ydym wedi eu dysgu o brofiad yr Alban yw eu bod wedi ceisio ychwanegu'r asesiad a'r gwerthusiad wedi iddyn nhw orffen ymdrin â'r cynnwys. Rydym ni yn ceisio gwneud hynny ar yr un pryd fel bod gennym ddealltwriaeth glir. Yr hyn yr ydym yn sôn amdano yn y fan hon yw hunanwerthuso perfformiad ysgolion unigol, sydd ychydig yn wahanol.
Yr holl ddiben yw cynyddu amlygrwydd a rhoi mwy o wybodaeth i'r rhai sydd â diddordeb, fel bod yr ysgol ei hun yn myfyrio ar ei pherfformiad ei hun, ymhle mae angen gwella, ymhle mae hi'n llwyddo a pha gynnydd y gall ei wneud. Dywedodd yr Aelod yn gwbl briodol, 'A oes perygl y bydd pobl yn marcio eu gwaith cartref eu hunain a dewis yr hyn y cânt ei werthuso yn ôl eu dymuniad? Un o'r problemau a nodwyd gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd o ran y system bresennol o hunanwerthuso—gan fod hynny'n digwydd yn yr ysgol—yw nad oes unrhyw ddull cenedlaethol. Ceir pecynnau cymorth amrywiol, ceir gwahanol ddulliau o wneud pethau, ac un o'r pethau yr wyf yn eu hegluro heddiw yw y bydd yna ddull gweithredu cenedlaethol, dealltwriaeth gyffredin, o'r modd y bydd pob ysgol yn gwneud hyn i sicrhau cydlyniaeth ledled y system gyfan, fel bod modd gwella ar yr hyn sydd wedi digwydd hyd yn hyn, a hefyd, fel y nododd hi'n gywir, gwneud yn siŵr bod hynny'n gymwys drwy'r system i gyd.
Rwy'n sylweddoli, gan ein bod yn newid systemau atebolrwydd, bod hynny yn rhoi her o ran cymharu blwyddyn a blwyddyn. Ond yr hyn yr ydym yn ei wneud, rwy'n credu, yw symud tuag at system o fesurau atebolrwydd mwy deallus yn ein hysgolion, yr wyf yn credu y bydd yn symbylu'r math iawn o ymddygiadau. Roedd yr Aelod, yn gwbl briodol, yn sôn am roi'r un parch i gymwysterau academaidd a rhai mwy galwedigaethol, ac am arweinyddion ysgolion yn gwneud penderfyniad cywir ar gyfer pob disgybl. Byddwn yn dadlau, o dan yr hen drefn, ein bod o bosib wedi cymell arweinyddion ysgol i chwarae'r system a gwneud i'r ysgol ymddangos yn well, yn hytrach nag ystyried yr hyn oedd yn iawn o ran anghenion pob plentyn unigol. Dyna pam mai un o'r materion a gaiff eu hystyried yn rhan o'r hunanwerthusiad—er nad wyf yn dymuno achub y blaen ar y gwaith y mae'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn ei wneud, oherwydd y Sefydliad hwn, Estyn a'r proffesiwn sy'n datblygu'r fframwaith gwerthuso; nid ydym yn gwneud hyn ar ein pen ein hunain, ac mae gennym oruchwyliaeth ryngwladol—a fydd yn edrych ar ehangder y cwricwlwm, a'r hyn sydd mewn gwirionedd ar gael, fel bod ein system ysgolion yn diwallu anghenion amrywiaeth o ddysgwyr ac yn deall bod hynny yn deillio o gwricwlwm eang a chyfle eang.
Wrth gwrs, bydd yr Aelod yn ymwybodol ein bod eisoes wedi symud oddi wrth fesur perfformiad cynhwysol lefel 2 ar gyfer ysgolion uwchradd i sgôr pwyntiau wedi'i chapio, sy'n golygu bod pob disgybl yn cyfrif. Yn y gorffennol, pe byddech yn canolbwyntio ar eich ffiniau rhwng graddau C a D ac yn eu cael nhw dros y llinell, mewn gwirionedd, dyna'r hyn oedd yn sbarduno ymddygiad mewn ysgol. O dan y system newydd, bydd pob plentyn yn cyfrif. Bydd yr hyn y maen nhw'n ei wneud yn cyfrif. Bydd hyn yn golygu bod pob plentyn yn bwysig a'u bod yn haeddu sylw cyfartal gan staff eu hysgol.
Rwy'n derbyn eich pwynt am berthynas gyda'r teuluoedd. Heblaw am ansawdd yr addysg, gwyddom mai'r ffactor mwyaf sy'n effeithio ar sut mae plentyn yn dod yn ei flaen yw ymgysylltiad y rhieni ag addysg y plentyn hwnnw. Felly, mae perthynas weithio dda â theuluoedd yn gwbl hanfodol, ac rwy'n deall bod hynny wedi bod yn rhan o'r asesiad sy'n cael ei ystyried ar hyn o bryd. Croesbeillio yw'r union beth yr ydym yn ei ddymuno yn sgil y broses hon o gael ysgolion i weithio'n fwy agos i'w gilydd—ac ysgolion a chonsortia rhanbarthol ac Estyn—fel ein bod yn gwella o ran rhannu arfer da. Un o'm rwystredigaethau parhaus gyda'r system yw bod gennym arferion rhagorol a blaenllaw yn rhai o ysgolion Cymru, a does bosib ei bod y tu hwnt i'n crebwyll ni i sicrhau bod hynny'n cael ei gymhwyso'n gyson ym mhob un o'n hysgolion ni. A rhan o'r broses hon yw gwneud yn siŵr bod ysgolion yn gweithio gyda'i gilydd—bydd hynny'n rhan o'r gwerthusiad—ac rwy'n gweithio gyda fy ysgolion eraill. Mae gennyf gyfrifoldeb, oes, i'm plant, ond mae gennyf gyfrifoldeb hefyd i'r clwstwr ac i'r genedl. A hefyd bydd y crynodeb hwnnw o'r gwerthusiad ar gael i rieni. Ar hyn o bryd, mae'r wybodaeth sydd ar gael i rieni yn reit gyfyngedig mewn gwirionedd, felly mae hyn yn ymwneud â darparu mwy o amlygrwydd i rieni y tu hwnt i'r hyn sydd ar gael ar hyn o bryd.
A gaf i gywiro'r Aelod o ran un peth? Mae gwahaniaeth rhwng asesiad ac atebolrwydd. Mae'n rhaid inni fynd yn ôl at system sy'n defnyddio asesiad at ddibenion dysgu ac at symbylu taith addysgol y plentyn. Ni ddylai asesiad olygu systemau o atebolrwydd, oherwydd os croeswch chi'r rheini, dyna pryd y cewch chi chwarae ar y system. Dyna pryd y byddwch yn cael darlun anghywir o'r hyn sy'n digwydd. Felly, mae gwahaniaeth rhwng asesiad, yr ydym yn ei ddymuno ar gyfer symbylu addysg yn ein hysgolion—. Mae asesiad yn bont rhwng addysg a dysgu, ac ni allwn ganiatáu i hynny gael ei gaethiwo yn y drefn atebolrwydd. Mae atebolrwydd yn sefyll ar wahân, a dyna'r hyn yr ydym ni'n ei ddatblygu: mesurau asesu cadarn i symbylu addysg a dysgu yn ein hysgolion ond hefyd fesurau atebolrwydd cadarn y gellir dwyn ysgolion unigol, consortia rhanbarthol a'r Llywodraeth i gyfrif drwyddynt.
A gaf i ddiolch i’r Ysgrifennydd am ei datganiad a chroesawu’r datganiad hefyd? Yn amlwg, byddwn ni eisiau gweld y fframwaith a’r manylion pan fyddan nhw ar gael, ond rydw i’n sicr yn cefnogi’r cyfeiriad rydych chi’n symud tuag ato fe. Yn aml iawn, rŷm ni’n anghofio—yn sicr yn y blynyddoedd a fu, efallai—fod angen ymddiried yn yr athrawon yn fwy, efallai, nag ydym ni wedi gwneud yn y gorffennol. Rydw i wedi dweud hyn yng nghyd-destun adnabod gallu plant a photensial plant i weld cynnydd ac yn y blaen, ac rydw i’n meddwl bod yr un egwyddor yn berthnasol fan hyn, hynny yw symud i hunanwerthuso, i hunanasesu. Mae Plaid Cymru wedi hen alw am system hunanwella lle mae’r proffesiwn yn gyfrifol am eu safonau eu hunain ond lle mae yna, wrth gwrs, fframwaith asesu a gwerthuso cryf yn eistedd y tu ôl i hynny.
Mi ddywedoch chi mewn datganiad fis Medi diwethaf y byddech chi’n cyhoeddi’r fframwaith newydd i’r system addysg yn ei gyfanrwydd yn ystod yr hydref eleni. Yn amlwg, heddiw, nawr, rŷch chi’n cadarnhau y byddwch chi’n gwneud hynny y flwyddyn nesaf. Rŷch chi wedi cyffwrdd ar hyn mewn ateb blaenorol, ond mi fuaswn i jest yn licio deall pam yr oedi. Gwnaethoch chi gyfeirio at y ffaith eich bod chi, efallai, yn cyplysu’r broses yma â chyflwyno y cwricwlwm, ac mae rhywun yn deall y rhesymeg y tu ôl i hynny, ond efallai—. Pryd, felly, fydd hwn yn llawn weithredol ar draws Cymru? Beth yw'ch nod chi o safbwynt pryd fydd y fframwaith yma’n gwbl weithredol ac y bydd pawb o fewn y gyfundrefn addysg yn atebol iddo fe? Fe fyddwn i’n falch i glywed hynny.
Rŷch chi’n sôn yn eich datganiad y bydd disgwyl hunanwerthuso ar draws nifer o feysydd gwahanol sy’n edrych ar gyflawniad a lles disgyblion, ystod y cwricwlwm sydd ar gael, y capasiti i wella a gweithio gydag ysgolion eraill ac yn y blaen, ac mae hynny i gyd, wrth gwrs, yn agweddau i’w canmol ac i’w hannog, ond sut fydd hynny’n cael ei ystyried yng nghyd-destun yr amrywiaeth sydd yna o adnoddau sydd ar gael i ysgolion? Oherwydd mae yna anghysondeb: rŷm ni’n chwilio am gysondeb yn yr asesu, ond mae yna anghysondeb yn yr adnoddau sydd ar gael i gyflawni, er enghraifft, yr ystod o gwricwlwm sydd ar gael. Mewn rhai ardaloedd, mae yna gyllidebau gwell na’i gilydd, ac mae hynny’n mynd i gael effaith uniongyrchol ar y pynciau y mae ysgolion yn gallu eu cynnig. Felly, rydw i jest yn teimlo, tra bod yr egwyddorion yna yn bwysig a’n bod ni’n gallu cael system gydlynus—'coherent' rydw i’n credu rydych chi’n ei ddweud—a chyson ar draws Cymru, mae’r cyd-destun, wrth gwrs, yn amrywio o un ardal i’r llall, ac efallai fod hynny’n mynd i greu rhyw fath o wrthdaro o fewn y system.
Rŷch chi hefyd yn berffaith iawn i ddweud bod angen annog a hwyluso rhannu arfer da, ond, eto, un o’r pethau rŷm ni’n eu clywed gan y sector yn aml iawn yw bod yna ddim lle na'r capasiti a’r slac, os liciwch chi, o fewn y system i ryddhau aelodau staff i fynd i sôn am yr arfer da yma sy’n digwydd, ac mae hynny, i raddau, yn cael ei gydnabod yn yr adnoddau ychwanegol rŷch chi’n eu rhoi i’r ysgolion arloesi, er mwyn rhyddhau athrawon i fynd i siarad mewn cynadleddau ac i siarad o’u profiad. Felly, a oes yna adnoddau ychwanegol ar gael i ysgolion er mwyn gweithredu elfennau o’r fframwaith yma? Neu a ydych chi’n rhagweld efallai fod yna ryw arian transitional ar gyfer symud o un gyfundrefn i'r llall? Fe fyddwn i'n falch iawn i glywed beth yw'r sefyllfa yn hynny o beth.
Mae’n hyfryd gweld y bydd y consortia a Llywodraeth Cymru yn atebol i fframweithiau cyfatebol. Rydw i’n meddwl bod hynny’n anfon neges bwysig i athrawon ac i’r sector gyfan fod pawb nid yn unig yn tynnu i’r un cyfeiriad, ond bod pawb hefyd yn atebol ac yn chwarae i'r un rheolau, a’i fod yn cyflwyno elfen o gydraddoldeb, sydd yn neges bositif, yn fy marn i.
Byddwn i hefyd yn gofyn a oes yna fwriad i beilota hwn ar y ffas lo, oherwydd yn amlwg, rŷm ni i gyd yn awyddus i weld ni’n symud i’r cyfeiriad yna, ond mae’n bwysig, os ydyw’n digwydd, ei fod yn cael ei wneud yn iawn. Rŷch chi’n sôn am yr angen i osgoi unintended consequences, rŷch chi’n ei ddweud, a chyflwyno coherent approach, hynny yw, cyson ar draws Cymru, wel, mae’n debyg y byddai elfen o beilota efallai, yn rhan o’i gyflwyniad e, yn gyfraniad pwysig yn hynny o beth.
A gaf i ddiolch i Llŷr am ei groeso i'r llwybr a ddilynir? Rwy'n siŵr ein bod ni ill dau wedi darllen ac astudio'r ymchwil a'r dystiolaeth am allu hunanwerthusiad i symbylu gwelliannau a gallu system ysgol sydd yn ei gwella ei hun. Os edrychwn ar yr arfer gorau rhyngwladol mewn gwledydd sy'n perfformio'n uchel, mae ymddiriedaeth yn y proffesiwn, yn ogystal â system gadarn o hunanwerthuso a gweithio rhwng ysgol ac ysgol, yn hanfodol i ddatblygu system addysg.
Yn anffodus efallai yn rhai o'r ffyrdd lle yr oeddem wedi cael mesurau atebolrwydd yn y gorffennol, mae hynny wedi gweithio yn erbyn yr egwyddor honno o ysgolion yn rhannu arfer da. Os wyf i mewn chwartel, mae angen imi gael rhywun arall sy'n gwneud yn waeth na fi, felly pam ddylwn i rannu â chi'r dulliau sy'n gweithio'n dda i mi? Felly, mewn gwirionedd, yn y gorffennol, rydym wedi cael system o atebolrwydd a oedd efallai yn anfwriadol wedi gweithio yn erbyn yr egwyddor hon o ysgolion yn cydweithio'n agos ac yn codi safonau ar y cyd, sydd, fel y dywedais, fel y gwyddom o dystiolaeth ryngwladol, yn symbyliad cryf ar gyfer newid system addysg.
O ran amserlenni a'r pwynt pwysig a wnaeth Llŷr am brofi, byddwn yn rhoi prawf ar hyn yn y flwyddyn newydd, yn 2019. Rydych chi'n hollol iawn: mae angen inni ddeall pe byddai'r Llywodraeth yn tynnu'r lifer hwn, beth fyddai ystyr hynny o ddydd i ddydd yn ein hysgolion, ac nid ydym yn dymuno creu cyfres newydd o ganlyniadau anfwriadol yn sgil y newidiadau a wnawn. Felly, fe gaiff ei brofi. I ddechrau, ar hyn o bryd, rydym yn rhannu peth o'r syniadau â'n sector ysgol gynradd ar y ffordd y bydd yn gweithio yn y sector cynradd. Yr hyn sy'n bwysig ei nodi, Llŷr, yw bod y dull hunanwerthuso yn cael ei ddatblygu mewn cydweithrediad â'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, fel bod gennym y trylwyredd a'r goruchwylio rhyngwladol, gydag Estyn, a fydd â'r swyddogaeth o ddilysu cyfundrefn hunanwerthuso ysgol, ac â'r proffesiwn ei hun fel ein bod yn gwybod ein bod yn dyfeisio system sy'n ymarferol mewn ysgol. Y peth gwaethaf y gallem ei wneud yw dylunio system nad yw, mewn gwirionedd, yn ymarferol ar gyfer ysgol i'w defnyddio a'i helpu i ysgogi gwelliant. Felly, mae'r proffesiwn ynghlwm yn ei datblygiad.
Ond credaf hefyd ei bod yn bwysig—.Rwy'n derbyn eich pwynt bod ysgolion unigol ac awdurdodau lleol yn gwneud gwahanol fathau o benderfyniadau ariannu, ond rwy'n credu bod angen inni gael cyd-ddealltwriaeth ledled y system am yr hyn a olygir wrth hunanwerthusiad ac rydym yn edrych ar yr un ffactorau ym mhob un o'n hysgolion. Unwaith eto, y pethau y byddem yn disgwyl eu gweld yn cael eu cyflwyno fel rhan o'r fframwaith fyddai ei effeithiolrwydd fel sefydliad addysgol, sut mae'n dangos sut y gall yrru pethau ymlaen, effeithiolrwydd ei brosesau i wella ysgol, yn hanfodol o ran yr effaith ar y disgyblion. Pam ydym ni'n gwneud hyn? Beth yw diben gwneud hyn o gwbl os na fydd eich gwelliant yn arwain at ganlyniadau gwell ac effaith fwy cadarnhaol ar eich disgyblion ysgol? Cynnydd a chyflawniad ynghylch y cwricwlwm ei hun, mae'n amlwg, ond hefyd gan edrych ar fater llesiant.
Rydym wedi cael llawer o ddadleuon yn y Siambr hon yn ddiweddar am yr angen am ddull ysgol gyfan. Mae'n rhaid inni gael ffordd fwy soffistigedig o ddal ysgolion i gyfrif o ran llesiant. Ar ei waethaf, mae llesiant yn ymwneud ag 'A yw'r plant wedi dod i'r ysgol?' ac os ydyn nhw wedi dod, 'Wel, dyna ni, rydym yn mynd i'r afael â llesiant.' Gwyddom, o'r gwaith y mae'r pwyllgor wedi ei wneud, ei bod yn rhaid inni fod yn llawer mwy soffistigedig wrth edrych ar y ffordd yr ydym yn mynd i'r afael â llesiant. Mae angen dull ysgol gyfan arnom. Rydym yn gwybod hefyd bod ysgolion yn gwneud yr hyn y cânt eu gwerthuso arno, felly mae'n rhaid i hyn fod yn rhan bwysig o fframwaith hunanwerthuso wrth i ni fynd ymlaen.
Rydych chi'n iawn: un o'r heriau, Llŷr, yw creu amser ar gyfer hyn i gyd. Yn y lle cyntaf, roeddech chi'n nodi'n gywir ein bod yn rhoi adnoddau i ysgolion arloesi er mwyn gallu gwneud y gwaith hwn. Rydym yn bwriadu ariannu datblygiad cyfleoedd dysgu proffesiynol newydd a fydd yn ei gwneud yn fwy hwylus i bobl wrth fynd a dod rhwng gwahanol ysgolion. Felly, bydd angen adnoddau ar gyfer hynny ac, yn yr hirdymor, dyna pam yr ydym wedi comisiynu Mick Waters i wneud yr adroddiad a grybwyllwyd gennych chi eich hun yn gynharach mewn cwestiynau i arweinydd y tŷ, oherwydd mae hynny'n sôn am y ffordd y gallwn ddechrau meddwl am sut y gallwn wireddu'r pethau hyn gan ystyried cyfyngiadau bywyd gwaith prysur iawn yr athro. Byddaf yn ceisio ymateb yn llawn i'r adroddiad hwnnw pan fyddwn wedi cael cyfle i ystyried popeth sydd ynddo. Ond cefais fy nghalonogi yn fawr iawn eich bod wedi ei gael yn ddiddorol ac yn ysgogol iawn i'w ddarllen, ac mae hynny'n rhoi glasbrint ar gyfer y modd y gall rhai o'r materion hyn gael eu trin yn y tymor hwy mewn ffordd fwy cynaliadwy, yn hytrach na gorfod rhoi ffynonellau ariannu ynghyd drwy'r amser er mwyn i'r pethau hyn ddigwydd.
Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae hunanwerthuso yn ymarferiad mewnol pwysig, ond pan gaiff ei ddefnyddio yn y cyd-destun hwn, ym mha ffordd fydd yn llunio rhan o'r broses ehangach o werthuso ac asesu? A phan fo ysgolion yn gweithredu yn ôl model cyllido sydd yn gweld ysgolion yn cystadlu am ddisgyblion, a fydd hunanwerthuso'r ysgolion a'r consortia yn ddim ond ymarfer o hunan gyhoeddusrwydd yn y pen draw? Gwn eich bod yn dweud y bydd yr hunanwerthuso yn cael ei ddilysu yn allanol, ond os hynny, os bydd yn destun dilysu a gwerthuso allanol, pam trafferthu gyda'r hunanwerthuso yn y lle cyntaf, a'i adael yn fater i gorff allanol fel Estyn? Ac o safbwynt ymarferol, beth fydd dilysu yn ei olygu mewn gwirionedd, a sut fydd Estyn yn ymdrin mewn gwirionedd â dilysu hunanwerthusiadau'r consortia a'r ysgolion? Byddwn yn falch dros ben o glywed sut yr ydych chi'n rhagweld hynny'n gweithio, Ysgrifennydd y Cabinet.
Dylai ysgolion fod yn hunanwerthuso eisoes ar gyfer eu defnydd eu hunain, felly bydd y syniad hwn fod yn rhaid i'r gwerthusiad fod yn rhywbeth cyhoeddus, mewn rhyw ystyr, yn sicr o beryglu yr hyn a oedd o'r blaen yn werthusiad gonest yn mynd yn un wedi ei greu i ddenu mwy o ddisgyblion. Ai dyma'r symudiad cywir mewn gwirionedd o ystyried y model ariannu, ac a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet o blaid newid y model ariannu fel y byddai'n fwy addas ar gyfer y cynllun gwerthuso hwn?
Gan droi at yr adolygiadau gan gymheiriaid o hunanwerthusiadau consortia rhanbarthol ac ysgolion, sut ydych chi'n rhagweld y bydd hynny'n gweithio'n ymarferol? Beth yw nod yr adolygiadau gan gymheiriaid? Ac o ystyried y bydd consortia rhanbarthol ac ysgolion mewn gwirionedd yn gwirio gwaith cartref ei gilydd, sut ydych chi am sicrhau y bydd safonau yn gwella o ganlyniad? Diolch.
Credaf fod llawer iawn o werth i'w roi ar ymarfer mewnol sy'n edrych ar gryfderau a gwendidau sefydliad unigol ac, yn bwysicach na hynny, pa gamau a gymerir i wneud y sefydliad yn un gwell. Rydym yn gwybod, ar sail yr holl dystiolaeth a'r ymchwil rhyngwladol, bod ysgolion fel sefydliadau sy'n dysgu yn nodwedd o systemau addysg sy'n perfformio'n dda iawn, a dyna'r hyn yr wyf yn ei ddymuno i blant Cymru. Ond rydym yn gwybod hefyd fod angen elfen o adolygiad gan gymeiriaid ar yr hunanwerthuso hwnnw. Dyna pam y bydd gennym ysgolion sy'n gweithio gyda'i gilydd i ddarparu hynny. Nid yn unig y bydd yn gyfle ardderchog i wirio ymarferiad mewnol, ond bydd yn hyrwyddo ysbryd cydweithio rhwng ein hysgolion—rhywbeth nad ydym wedi llwyddo i'w gyflawni yn ein system yn y gorffennol, ac mae angen inni wella ar hynny. A dyna oedd un o nodweddion adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ar system addysg Cymru.
Estyn fydd yn cynnal y gwaith dilysu. Dywed yr Aelod efallai y dylid gadael hyn i gyd i Estyn, ond, mewn gwirionedd, byddai'r cylch arolygu yn gadael bylchau enfawr pryd na fyddai Estyn yn gallu cyrraedd ysgol. Proses a gaiff ei chynnal yn flynyddol yw hon, ac felly cawn amser byw real. Un o'r problemau gyda'r system arolygu bresennol yw y gall ysgol fod am lawer iawn o flynyddoedd cyn y bydd Estyn yn mynd yn ôl i arolygu'r ysgol honno eto. Ac, er gwell neu er gwaeth, gall adroddiad arolygu ddyddio'n gyflym iawn. Rwy'n gwybod am ysgolion sydd wedi newid yn anfesuradwy mewn cyfnod byr o amser, ac mae gennym ni ysgolion hefyd sydd wedi gwneud yn dda, a cheir llawer o dystiolaeth o hynny dros y ffin yn Lloegr, bod ysgol wedi gwneud yn dda ac yna, ar ôl arolwg, mae perfformiad a safonau yn disgyn ar unwaith gan na fydd y bygythiad o adroddiad arolygiad ar y gorwel am flynyddoedd lawer eto. Felly, mewn gwirionedd, bydd hyn yn rhoi system well o lawer i ni, a system llawer mwy cadarn, lle bydd y pethau hyn yn cael eu harchwilio a'u herio'n gyson.
Nid oes gennyf unrhyw gynlluniau i newid y model presennol o gyllido addysg, ond, wrth gwrs, byddaf yn rhoi ystyriaeth i bob cyfle i fanteisio i'r eithaf ar gyllidebau ysgolion a chynyddu swm y buddsoddiad y gall y Llywodraeth Cymru ei roi yn ein system addysg.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.