Rheilffordd y Cambrian a Rheilffordd Calon Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 26 Medi 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Conservative 1:36, 26 Medi 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae nifer o etholwyr a sefydliadau twristiaeth wedi cysylltu â mi ynglŷn â'r posibilrwydd y gall rhai o gerbydau rheilffordd y Cambrian a rheilffordd Calon Cymru fod yn gerbydau arsyllu, fel y gellir mwynhau ein golygfeydd godidog—rwy'n siŵr fod y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon yn cytuno â mi—mewn ffordd debyg i'r hyn sy'n digwydd yng Nghanada, yn y Mynyddoedd Creigiog. A oes unrhyw ystyriaeth wedi'i rhoi i hyn, Ysgrifennydd y Cabinet?