Mercher, 26 Medi 2018
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda y prynhawn yma yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Llyr Gruffydd.
1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wella trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru? OAQ52635
2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ynghylch a fydd unrhyw gerbydau newydd yn cael eu cyflwyno ar reilffordd y Cambrian a rheilffordd Calon Cymru? OAQ52623
Cwestiynau gan lefarwyr y pleidiau nawr. Llefarydd UKIP, David Rowlands.
3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am dagfeydd traffig ar yr M4 yn rhanbarth Gorllewin De Cymru? OAQ52617
4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am werth brand Cymru i’r economi? OAQ52638
5. A wnaiff Llywodraeth Cymru amlinellu sut y mae cymorth yn cael ei ddarparu i glybiau chwaraeon ar lawr gwlad? OAQ52626
6. A fydd penderfyniad Llywodraeth Cymru am ffordd liniaru'r M4 yn cael ei wneud o dan y Prif Weinidog presennol neu ei olynydd? OAQ52621
7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y fenter coridorau gwyrdd ar y rhwydwaith cefnffyrdd a thraffyrdd? OAQ52630
Y cwestiynau nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Mick Antoniw.
1. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael mewn perthynas â chyfiawnder gweinyddol yng Nghymru? OAQ52642
2. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'i swyddog cyfatebol yn yr Alban ynghylch yr achos gerbron y Goruchaf Lys ar Fil Ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd (Parhad...
3. Pa ddadansoddiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r effaith ar gyfraith Cymru os na fydd cytundeb yn deillio o'r negodiadau ar Brexit? OAQ52641
4. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael am wneud cyfreithiau Cymru yn fwy hygyrch? OAQ52634
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau amserol. Y cwestiwn cyntaf i'w ofyn i Weinidog yr Amgylchedd yw cwestiwn gan Vikki Howells.
3. A wnaiff Llywodraeth Cymru ddatganiad am benderfyniad Cyfoeth Naturiol Cymru i wahardd saethu ar dir cyhoeddus yng Nghymru? 213
2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am newidiadau i gyflogau meddygon a deintyddion yng Nghymru? 214
1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith uwchgynhadledd Salzburg ar Gymru? 215
Yr eitem nesaf, felly, yw’r datganiadau 90 eiliad. Vikki Howells.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cynigion i ethol Aelodau i bwyllgor, ac yn unol â Rheolau Sefydlog 12.24 ac 12.40, rwy'n cynnig bod y cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau yn cael eu grwpio ar...
Yr eitem nesaf, felly, yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, 'Wrth eich gwaith: rhianta a chyflogaeth yng Nghymru'. Rydw i'n galw...
Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar adroddiad blynyddol y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig: 'Cynnydd Llywodraeth Cymru o ran lliniaru effeithiau newid hinsawdd'. Galwaf ar...
Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar P-05-826: 'Mae Sir Benfro yn dweud NA!! i gau adran damweiniau ac achosion brys Llwynhelyg!' Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor i wneud y cynnig—David Rowlands.
Nid oes cyfnod pleidleisio.
Symudwn yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar David Rowlands i siarad ar y pwnc a ddewiswyd ganddo. Os oes Aelodau'n gadael y Siambr, a allwch wneud hynny'n gyflym ac yn dawel, os gwelwch yn dda? David.
Pa bolisïau sydd gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â chysylltedd rheilffyrdd yng Ngogledd Cymru?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia