Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 26 Medi 2018.
Diolch yn fawr am eich cwestiwn, Vikki, a chan fod fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet, wedi dweud pa mor falch ydyw i ateb ei gwestiwn, rwy'n falch iawn o ateb yr un hwn. Mae'r Llywodraeth yn cydnabod pwysigrwydd clybiau chwaraeon ar lefel y gymuned a'r rôl y maent yn ei chwarae yn datblygu chwaraeon ledled Cymru, a'r bont y maent yn ei darparu o gymryd rhan mewn chwaraeon hyd at ddatblygu athletwyr elitaidd. Darperir cefnogaeth ac arweiniad i glybiau chwaraeon, i'r oddeutu 60 o gyrff llywodraethu sydd gennym a phartneriaid eraill drwy Chwaraeon Cymru, ac mae ganddynt ystod eang o wasanaethau i gefnogi pob agwedd ar ddatblygu clybiau.