Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 26 Medi 2018.
Yn gynharach eleni, Weinidog, tynnwyd fy sylw gan etholwyr at strategaeth gyfleusterau Beicio Cymru, ac roeddent yn fodlon ar y strategaeth gan ei bod yn nodi, ar dudalen 11 yn yr adroddiad hwnnw, fod yna fylchau mawr yn y ddarpariaeth—yn enwedig o gwmpas ardal canolbarth Cymru a'r Drenewydd yn benodol meddai, a'r ffaith bod poblogaeth fawr yno a chlybiau rhagweithiol iawn yno, heb unrhyw gyfleusterau o fewn awr o yrru. Roedd tudalen 13 yn y ddogfen hefyd yn awgrymu y dylid lleoli cylchffyrdd caeedig mewn rhai ardaloedd yng Nghymru, a chrybwyllwyd y Drenewydd yn benodol. Felly, roedd yr etholwyr yn falch iawn o weld hynny. Pan holais Beicio Cymru fy hun, yn llawn cyffro, a oeddent am weithredu eu strategaeth, dywedasant nad oes—. Dyhead yn unig ydyw; nid oes unrhyw arian ar gael iddynt ar hyn o bryd i weithredu eu strategaeth. Felly, a gaf fi ofyn, Weinidog, pa gymorth y gallwch ei gynnig i Beicio Cymru—i'w galluogi i weithredu eu strategaeth, a fydd, wrth gwrs, yn arwain at greu canolfan yn y Drenewydd, fel y nodwyd yn eu strategaeth?