Coridorau Gwyrdd

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 26 Medi 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 2:21, 26 Medi 2018

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, croesawaf y fenter hon, ond mae wedi cymryd peth amser i ni gynllunio, adeiladu a chynnal ffyrdd o safon debyg i hyn, a hoffwn wybod pam fod ein hymagwedd yn weddol ddetholgar o hyd. Tybed a fydd y gwelliannau arfaethedig rhwng Dowlais Top a Hirwaun yn rhan o'r ateb hwn hefyd, gan fod ffyrdd yn ymyriad anferth yn yr amgylchedd naturiol, yn enwedig y rhai mwy bregus, ac mae llawer ohonynt, yn amlwg, i'w cael yng Nghymru. Yn aml, gall gweithredu ffyrdd ddarnio safleoedd a dinistrio cynefinoedd gwerthfawr. Felly, er fy mod yn croesawu hyn, credaf y dylid ei brif ffrydio'n llwyr, mewn gwirionedd, o ran adeiladu, cynnal a gwella ffyrdd.