Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 26 Medi 2018.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n croesawu'r fenter hon yn fawr. O gofio ein bod yn gweld mwy o ddigwyddiadau tywydd eithafol, gan gynnwys glaw eithriadol o drwm, credaf ei bod yn bwysicach nag erioed ein bod yn dechrau mynd i'r afael ag atebion ar ein cilffyrdd a'n priffyrdd ac yn helpu i leihau rhywfaint o'r llifogydd a achosir gan ddŵr wyneb. Gwn eich bod wedi dweud bod yr A470 yn un o'r ffyrdd a fydd yn elwa o'r cynllun hwn, ond a oes gennych unrhyw fanylion pellach eraill ynglŷn â'r rhwydwaith ffyrdd helaeth yn fy ardal i yng nghanolbarth a gorllewin Cymru?