Negodiadau Brexit

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 26 Medi 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:32, 26 Medi 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Fel Llywodraeth gyfrifol, rydym yn cynllunio ar gyfer pob senario Brexit, gan gynnwys 'dim bargen'. Fel rhan o'r cynlluniau hyn, mae gwaith wedi parhau, ac mae bellach wedi dwysáu, ar y rhaglen is-ddeddfwriaethol i sicrhau y gellir gwneud yr holl gywiriadau sydd eu hangen i ddeddfwriaeth Cymru cyn y diwrnod ymadael.