Gwaharddiad ar Saethu ar Dir Cyhoeddus yng Nghymru

Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 26 Medi 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 2:45, 26 Medi 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn ac am ei sylwadau. O ran y pwyntiau penodol mewn perthynas â'r cod ymarfer ar gyfer lles adar hela, hoffwn eich cyfeirio'n ôl at fy ateb blaenorol i'n cyd-Aelod Vikki Howells. Mewn perthynas â'r pryderon penodol a godwyd gennych—efallai y dylai Ysgrifennydd y Cabinet ysgrifennu atoch gyda rhagor o fanylion am hynny, ac efallai y byddech yn hoffi gohebu yn y modd hwnnw.