Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 26 Medi 2018.
Croesawaf y penderfyniad a wnaed ac roeddwn am longyfarch y Gynghrair yn erbyn Chwaraeon Creulon ar y gwaith a wnaethant ar yr ymgyrch benodol hon. Rwyf eisiau deall beth fydd eich ymgysylltiad, fel Gweinidog, gyda Cyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas â grwpiau sy'n ymwneud â hyn o bob sector yn y gymdeithas yng ngoleuni’r penderfyniad hwn, oherwydd mae gennyf bryderon difrifol am y ffaith bod y Gynghrair Cefn Gwlad wedi trydar yn galw ar ddau aelod o fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru, a siaradodd o blaid rhoi diwedd ar y trwyddedau saethu, i ymddiswyddo, er nad oedd ganddynt fuddiant, ac ni wnaethant alw ar aelodau eraill o’r bwrdd sydd â buddiant yn yr agenda saethu i ymddiswyddo hefyd. Felly, gallant ddewis a dethol lle maent yn credu bod buddiant a lle nad oes buddiant. Ac roedd buddiant yn yr adroddiad dan sylw, a grybwyllwyd gan Andrew R.T. Davies, oherwydd roedd hwnnw’n rhywun ar yr adroddiad comisiwn penodol hwnnw a oedd yn rhan o'r frawdoliaeth saethu mewn gwirionedd, ac felly, gallai fod rhagfarn yno, a chodais hynny yn y Siambr heddiw hefyd. Sut y gallwn ymddiried yn y penderfyniadau a wneir os yw sefydliadau sydd â dylanwad sylweddol ar y gymdeithas Gymreig yn mynd i wneud yr honiadau gwarthus hyn wedi i benderfyniad a ystyriwyd yn ofalus gael ei wneud, a phenderfyniad rwy’n credu y bydd y rhan fwyaf o boblogaeth Cymru yn ei gefnogi?