Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 26 Medi 2018.
Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn ac am ei diddordeb yn y maes hwn. Mae'n gywir y bydd y penderfyniad yn rhoi diwedd ar brydlesu tir ar gyfer saethu ffesantod ar dir Llywodraeth Cymru pan ddaw'r cytundebau prydles cyfredol i ben. Mewn perthynas â’r cod ymarfer ar gyfer lles adar hela a gaiff eu magu at ddibenion chwaraeon, mater i Ysgrifennydd y Cabinet yw hwnnw mewn gwirionedd. Ond gallaf ddweud bod gwaith yn mynd rhagddo i adolygu codau ymarfer cyfredol Llywodraeth Cymru ar gyfer ieir dodwy, brwyliaid a moch, ac o ganlyniad i fwy o alw am gymorth cyfreithiol a pholisi yng ngoleuni trafodaethau Brexit, mae oedi wedi bod yn y broses o gyhoeddi’r codau hyn. Fodd bynnag, bydd y gwaith o adolygu’r codau y cytunwyd arnynt gyda rhanddeiliaid a gwaith ar ddiweddaru’r cod ymarfer cyfredol ar les pellach adar hela a gaiff eu magu at ddibenion chwaraeon yn parhau ar ôl cyhoeddi’r blaenoriaethau y cytunwyd arnynt.