Part of the debate – Senedd Cymru am 3:11 pm ar 26 Medi 2018.
Diolch, Lywydd. Rwy'n falch o agor y ddadl heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, 'Wrth eich Gwaith: rhianta a chyflogaeth yng Nghymru'. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i bawb a gyfrannodd at ein hymchwiliad, naill ai drwy roi tystiolaeth yn ysgrifenedig neu ar lafar, ac yn benodol, y rhai a rannodd eu profiadau personol o wahaniaethu yn y gweithle.
Roeddem yn gallu clywed y lleisiau hyn yn uniongyrchol, drwy ein fforwm ar-lein, grwpiau ffocws, a thrwy'r rhai a rannodd eu straeon â'r dylanwadwr cymdeithasol enwog a'r ymgyrchydd dros weithio hyblyg, Anna Whitehouse, a roddodd dystiolaeth i'r pwyllgor. Mae'n bwysig clywed profiadau bywyd pobl, ac fe gyfoethogodd y dystiolaeth hon ein dealltwriaeth yn fawr.
Yn 2016, canfu arolwg gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol dystiolaeth eang o wahaniaethu yn y gweithle tuag at fenywod beichiog a rhieni. Canfu fod hyd at 54,000 o fenywod ym Mhrydain yn colli eu swyddi bob blwyddyn—[Torri ar draws.]. Ymddiheuriadau, Lywydd. Ac wrth gwrs, mae pob un o'r swyddi hynny a gollir yn drychineb bersonol i'r bobl yr effeithir arnynt, a'u teuluoedd yn wir. Ac o edrych ar y cyfanswm, mae'n golled fawr i'r economi.
Ym mis Mawrth, Lywydd, cyhoeddodd y Prif Weinidog ei fwriad i wneud Cymru'n arweinydd byd o ran cydraddoldeb rhwng y rhywiau. Rydym yn credu bod ein hargymhellion a'n casgliadau yn nodi materion hollbwysig y mae angen rhoi sylw iddynt er mwyn cyflawni'r nod hwn. Mae atal cyfran fawr o'r boblogaeth rhag cyfrannu eu sgiliau a'u profiadau i'r gweithlu yn annheg ac nid yw'n gwneud synnwyr economaidd. Mae gwaith ymchwil wedi dangos y gallai cydraddoldeb i fenywod arwain at gynnydd o 10% yn economi'r DU. Er nad yw cyfraith cyflogaeth wedi'i ddatganoli, mae digon o arfau ar gael at ddefnydd Llywodraeth Cymru, fel sy'n cael ei gydnabod yn ei hymateb i'n hadroddiad.
Mae gweithio hyblyg yn allweddol i leihau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Clywsom dystiolaeth rymus gan amrywiaeth o dystion ar ba mor bwysig yw ei gynnig i weithwyr. Eto, yn anffodus, ymhlith gwledydd y DU, Cymru sydd â'r gyfran isaf o gyflogwyr sy'n sicrhau ei fod ar gael. Mae'n galonogol gweld Llywodraeth Cymru yn derbyn pob un ond un o'n hargymhellion ar y materion arbennig hyn. Ac mae hefyd yn galonogol fod Llywodraeth Cymru, fel cyflogwr, eisoes yn hysbysebu pob swydd fel swyddi hyblyg yn ddiofyn. Credwn y dylai awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru fabwysiadu'r arfer ac rydym yn croesawu ymrwymiad y Llywodraeth i fwrw ymlaen â hyn.