Part of the debate – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 26 Medi 2018.
Mae'n bwysig iawn fod pobl sy'n chwilio am waith yn gwybod bod gweithio hyblyg yn opsiwn a'i fod yn eglur yn hysbyseb a disgrifiad y swydd. Mewn gwirionedd, byddai'n dda cynnwys slogan debyg i slogan Llywodraeth yr Alban, 'hapus i drafod gweithio hyblyg' ar gyfer pob un o hysbysebion swyddi Llywodraeth Cymru, a byddai'n ddefnyddiol cael rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut y bydd Llywodraeth Cymru yn annog sefydliadau sector cyhoeddus eraill i ddilyn ei hesiampl.
Clywsom am yr heriau penodol sy'n wynebu athrawon. Mae argymhellion 5, 6 a 7 yn galw am fwy o hyblygrwydd iddynt. Mae ymateb y Llywodraeth yn galonogol, ond byddem yn croesawu rhagor o eglurhad mewn perthynas â phryd y bydd y canllawiau recriwtio perthnasol yn cael eu hadolygu a'u diweddaru.
Er ein bod yn gweld arwyddion calonogol yn y sector cyhoeddus, mae'r rhan fwyaf o bobl yn gweithio mewn mentrau preifat, felly mae angen i ni newid agweddau a chyfleoedd ar gyfer gweithio hyblyg yn y sector hwn hefyd ac mae nifer o ysgogiadau ar gael i Lywodraeth Cymru ddylanwadu ar newid o'r fath, yn bennaf drwy'r cynllun gweithredu economaidd a'r contract economaidd, caffael, a'r cyngor a'r cymorth a gynigir gan Busnes Cymru.
Os yw Llywodraeth Cymru am arddel yr uchelgais i Gymru fod yn arweinydd byd o ran cydraddoldeb rhwng y rhywiau, mae'n rhaid iddi weithio'n galetach i sicrhau bod gweithio hyblyg ar gael ar draws y sector preifat. Gydag arweiniad da a meddwl creadigol, dangosodd ein tystiolaeth y gall weithio ym mhob math o weithleoedd, gan gynnwys ffatrïoedd fel ffatri Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Felly, rydym wedi gwneud nifer o argymhellion perthnasol, a chredaf mai dyma lle mae'r ymateb braidd yn wan. Mae argymhelliad 9 yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynnu bod busnesau sy'n manteisio ar eu cymorth ariannol yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg a bod hwn yn cael ei wneud yn ofyniad allweddol yn y contract economaidd. Caiff hyn ei dderbyn mewn egwyddor, ond byddem yn hoffi ymrwymiad cryfach i sicrhau bod cwmnïau sy'n derbyn cymorth ariannol yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg mewn gwirionedd.
Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi llawer o bwyslais ar waith y Comisiwn Gwaith Teg, mewn perthynas â'r argymhelliad hwn ac eraill. Byddem yn hoffi cael ymrwymiad i ddarparu ymateb pellach i'r argymhellion perthnasol ar ôl cael adroddiad y Comisiwn. Clywsom fod gan Busnes Cymru rôl hanfodol i'w chwarae yn darparu cymorth a chyngor i'r sector preifat ond nad yw'n cyflawni'n ddigonol ar hyn o bryd, a gellid sicrhau newid cadarnhaol yn hawdd.
Derbyniwyd argymhellion 4 a 23, sy'n galw ar Busnes Cymru i roi cyngor arbenigol i gyflogwyr ar sut i ymdrin â cheisiadau am weithio hyblyg, ac i'r gefnogaeth gynnwys cyngor a chymorth ar recriwtio niwtral o ran y rhywiau, ond rydym yn credu y dylai fod ymrwymiad clir i adolygu sut y mae Busnes Cymru yn darparu'r cyngor a'r cymorth hwn. Mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod angen yr adolygiad hwn yn awr.
Yr ochr arall i'r un geiniog yw pa mor bwysig yw hi i rieni a darpar rieni gael mynediad at gyngor manwl o ansawdd da am eu hawliau a rhwymedigaethau eu cyflogwyr. Mae hwn yn faes arall lle teimlwn y gellir gwneud llawer mwy. Mae Maternity Action yn gweithredu llinell gyngor ledled y DU, ac nid oes digon o bobl i ymdopi â nifer y galwadau. Dywedwyd wrthym nad ydynt ond yn gallu ateb un o bob pump galwad. Adlewyrchwyd hyn yn y dystiolaeth a glywsom gan unigolion a geisiodd gael gafael ar gyngor a chymorth arbenigol. Felly, mae argymhelliad 28 yn galw ar y Llywodraeth i gymryd camau i gynyddu'r ddarpariaeth o gyngor arbenigol ar faterion rhianta a chyflogaeth. Wrth dderbyn yr argymhelliad, mae'r Llywodraeth yn datgan bod Busnes Cymru yn darparu cyngor ac y bydd y Llywodraeth yn ystyried darparu cyngor sy'n ymwneud â chyflogaeth ar ôl i adroddiad y Comisiwn Gwaith Teg gael ei gyflwyno, ond nid ydym yn cyfeirio at gyngor i gyflogwyr yn yr adroddiad hwn, ond yn hytrach, at gyngor i gyflogeion, ac nid ydym yn credu bod angen i hynny aros am adroddiad y Comisiwn Gwaith Teg. Byddem yn gofyn i ystyriaeth bellach gael ei rhoi i'r mater pwysig hwn yn awr. Fodd bynnag, mae'n galonogol gweld bod Llywodraeth Cymru'n cymryd camau i fynd i'r afael â materion yn ymwneud ag ansawdd cyngor gyrfaoedd ar gyfer rhieni sy'n dychwelyd i'r gwaith. Rydym yn falch o weld yr ymrwymiad i ofyn i Gyrfa Cymru ystyried rhieni sy'n dychwelyd i'r gwaith wrth ddatblygu porth cyngor cyflogaeth. Rydym yn gobeithio y bydd y rheini a fydd yn darparu cymorth gyrfa i bobl yn meddu ar arbenigedd mewn materion sy'n ymwneud â rhianta a gwaith.
Wrth gwrs, wrth wraidd yr holl faterion hyn mae syniadau diwylliannol sydd wedi hen ymwreiddio ynglŷn â menywod a rhianta, ac maent yn creu rhwystr aruthrol i ymdrechion i newid deddfwriaeth a blaenoriaethau'r Llywodraeth oherwydd y realti sylfaenol hwnnw sy'n galw am newid yn y gymdeithas ehangach a chymorth ar gyfer newid angenrheidiol, boed drwy ddeddfwriaeth neu strategaeth a pholisi. Rydym yn gwybod na fyddwn yn dileu gwahaniaethu ar sail mamolaeth neu feichiogrwydd tra bo gofal di-dâl yn cael ei ystyried fel cyfrifoldeb i fenywod yn unig. Codwyd y materion hyn dro ar ôl tro. Clywsom am achosion o wahaniaethu yn erbyn pobl ar y cam recriwtio a rhoi dyrchafiad oherwydd eu bod yn fenywod ac oherwydd ei bod yn bosibl y byddent angen absenoldeb mamolaeth ar ryw adeg yn y dyfodol. Ac wrth gwrs, gall hyn weithio'r ddwy ffordd, gydag agweddau sydd wedi ymwreiddio ynglŷn â rolau rhywedd yn atal dynion rhag gallu ysgwyddo cyfrifoldebau gofal plant pan fyddant yn dymuno gwneud hynny.
Mae gan bawb rôl i'w chwarae yn herio'r stereoteipiau hyn sy'n atal menywod a dynion fel ei gilydd, ond y dull gorau yw atal y syniadau hyn rhag dod yn norm yn y lle cyntaf, ac addysg yw'r arf gorau i wneud hynny. Felly, rwy'n falch fod argymhelliad 22, sy'n galw am gynnwys rolau rhywiau a rhianta yn yr addysg rhyw a pherthnasoedd newydd, wedi cael ei derbyn.
Fel rhan o'n gwaith craffu, buom yn ystyried cynnig gofal plant Llywodraeth Cymru, a gwnaethom argymhellion 13 i 15. Derbyniodd y Llywodraeth un o'r rhain mewn egwyddor, a gwrthod y ddau arall. Wrth gwrs, cafodd y materion hyn eu gwyntyllu yn y Siambr yr wythnos diwethaf pan drafodwyd y ddeddfwriaeth, ac nid wyf yn bwriadu eu hailadrodd, ond gan fod yr egwyddorion cyffredinol wedi'u cytuno bellach, rydym yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddatblygu polisïau a fydd yn ehangu mynediad at ofal plant fforddiadwy, gan fod hwn yn arf hanfodol i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhwng y rhywiau.
Yn olaf, daethom i'r casgliad fod angen data gwell mewn perthynas â'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau a chyfraddau cadw staff ar famolaeth. Rydym yn croesawu'r ymrwymiad yn yr ymateb i gyhoeddi data cyflogaeth a'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau mewn un lleoliad, ac rydym yn falch o weld y bydd y Llywodraeth yn rhoi mwy o ystyriaeth fanwl i argymhelliad 24, lle roeddem yn galw am gasglu cyfraddau cadw staff ar famolaeth fel rhan o ddyletswyddau cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
Yn fwy cyffredinol, rydym yn croesawu'r adolygiad o'r dyletswyddau cydraddoldeb hyn, a fydd hefyd yn ystyried lleihau'r baich gweinyddol ar y sector cyhoeddus. Hoffem eglurder ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer yr adolygiad hwn ac ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am gynnydd a phenderfyniadau erbyn diwedd y flwyddyn hon.
Ddirprwy Lywydd, os yw Cymru am fod yn arweinydd byd o ran cydraddoldeb rhwng y rhywiau, bydd gwneud newidiadau mewn perthynas â rhianta a chyflogaeth yn cyfrannu'n sylweddol tuag at wireddu hyn. Ni allwn ganiatáu i bethau barhau fel y maent. Mae'n bryd i'r byd gwaith addasu a newid er mwyn ystyried y newidiadau yn y ffordd yr ydym yn byw ac yn gweithio.
Rwy'n edrych ymlaen yn awr at gyfraniadau'r Aelodau ar draws y Siambr.