Part of the debate – Senedd Cymru am 4:50 pm ar 26 Medi 2018.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gyflwyno'r ddadl hon ar ddeiseb sy'n ceisio gwarchod y ddarpariaeth o wasanaethau damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Dosbarth Cyffredinol Llwynhelyg yn Sir Benfro.
Mae hon yn ddeiseb o bwys, o ran ei phwysigrwydd i bobl yn y gymuned leol a nifer y llofnodion a gasglwyd. Llofnododd 40,045 o bobl y ddeiseb i gyd. Rwy'n deall mai dyma'r ddeiseb fwyaf a gyflwynwyd i'r Cynulliad ers cyflwyno'r broses ddeisebu ffurfiol yn 2007. Cafodd lefel y gefnogaeth i'r ddeiseb ei gadarnhau pan gafodd ei chyflwyno i'r Cynulliad ym mis Gorffennaf, gyda nifer sylweddol o gefnogwyr wedi teithio o Sir Benfro. Rwyf am gydnabod y gefnogaeth i'r ddeiseb ac ymrwymiad y rhai a ymgyrchodd i gasglu'r llofnodion.
Rwyf am droi'n fyr at rywfaint o gefndir cyn mynd i'r afael â'r materion a godwyd yn y ddeiseb. Ar 19 Ebrill eleni, lansiodd bwrdd iechyd Hywel Dda ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol ar gynigion i newid y ffordd y darperir gwasanaethau iechyd ar draws yr ardal. Daeth hyn yn sgil ymarferiad mewnol i geisio nodi'r heriau a wynebir gan y bwrdd iechyd a'r opsiynau ar gyfer newid. Mae'n deg nodi bod bwrdd iechyd Hywel Dda wedi pwysleisio bod y broses hon wedi'i harwain gan staff clinigol o'r cychwyn cyntaf.
Roedd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn cynnwys tri chynnig ar gyfer newidiadau i wasanaethau ysbyty. Mynegodd mai ei nod cyffredinol yw symud mwy o wasanaethau o ysbytai i gymunedau a lle bo'n bosibl, darparu gwasanaethau yng nghartrefi cleifion eu hunain. O dan bob un o'r argymhellion, byddai ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd yn cael ei israddio o fod yn ysbyty cyffredinol dosbarth i ddod yn un o rwydwaith o ysbytai cymuned. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 12 Gorffennaf. Fel y bydd yr Aelodau yn gwybod, ystyriwyd canlyniadau'r ymgynghoriad ac argymhellion mewn cyfarfod eithriadol o fwrdd iechyd Hywel Dda yn gynharach heddiw. Adroddwyd yn y cyfryngau fod cais wedi'i wneud i'r bwrdd gymeradwyo sawl argymhelliad clinigol. Mae'r rhain yn cynnwys datblygu model newydd yn gyflym a fersiwn ddiwygiedig o opsiwn B o'r ymgynghoriad.
Bydd opsiwn B yn golygu, ymhlith pethau eraill, cau adrannau damweiniau ac achosion brys yn ysbytai Llwynhelyg a Glangwili ac adeiladu ysbyty newydd rhwng Arberth a Sanclêr. Y bwriad yw addasu Llwynhelyg a Glangwili i fod yn ysbytai cymuned. Cymeradwywyd y cynigion hyn gan y bwrdd iechyd a'r cam nesaf yw ystyried strategaeth iechyd ddrafft ym mis Tachwedd.
Cydnabu'r Pwyllgor Deisebau lefel y gefnogaeth i'r ddeiseb pan drafodwyd hyn am y tro cyntaf yn union cyn toriad yr haf. Roedd y pwyllgor hefyd yn ymwybodol o natur sensitif i amser y mater. O gofio hyn, cytunwyd y byddai'n briodol cyfeirio'r ddeiseb ar unwaith ar gyfer dadl yn y Cyfarfod Llawn. Mae'r pwyllgor yn ddiolchgar i'r Pwyllgor Busnes am gytuno i drefnu'r ddadl hon ar y cyfle cynharaf posibl. Er hynny, mae'n amlwg yn anffodus iawn, er gwaethaf yr ymdrechion hynny, fod y ddadl hon yn digwydd ar ôl cyfarfod y bwrdd iechyd y bore yma.
Rwy'n siomedig hefyd fod y wybodaeth a gafodd y pwyllgor gan Hywel Dda yn anghywir. Nododd y byddai adroddiad cau ymgynghoriad ac argymhellion yn cael eu cyflwyno i gyfarfod cyhoeddus o'r bwrdd yfory, ar 27 Medi, yn hytrach na heddiw. Serch hynny, rwy'n siŵr y bydd y bwrdd iechyd yn dymuno rhoi sylw manwl i'r materion a godir yn ystod y ddadl y prynhawn yma ac i'r safbwyntiau a fynegir gan yr Aelodau.
Rwyf am symud ymlaen yn awr at y pryderon a fynegwyd yn y ddeiseb. Mae'r rhain yn canolbwyntio ar yr effaith y bydd cael gwared ar yr adran damweiniau ac achosion brys o ysbyty Llwynhelyg yn ei chael ar y pellter y byddai angen i lawer o bobl ei deithio i gyrraedd eu hadran damweiniau ac achosion brys agosaf.
O dan y cynlluniau, bydd Llwynhelyg yn cynnal uned mân anafiadau. Fodd bynnag, mae'r deisebwyr yn credu y bydd y newid yn arwain at amseroedd teithio o awr neu fwy i adran damweiniau ac achosion brys i bobl sy'n byw ar ochr orllewinol Sir Benfro. Maent hefyd yn mynegi pryder y gallai'r amser hwn fod yn llawer hwy mewn gwirionedd i gleifion sydd angen ambiwlans i'w cludo i'r ysbyty. Mae pawb ohonom yn gwybod cymaint y mae cymunedau lleol yn gwerthfawrogi eu gwasanaethau iechyd, a pha mor emosiynol y gall argymhellion i'w newid fod. Nid yw honno'n ddadl dros beidio â gwneud newidiadau byth wrth gwrs. Ond dylai fod yn ddadl dros sicrhau y gall cynifer o leisiau ag y bo modd gael eu clywed a dros roi ystyriaeth ddifrifol iawn i'r pryderon.
I'r perwyl hwn, hoffwn nodi ar gyfer y cofnod hefyd fod y Pwyllgor Deisebau wedi derbyn deiseb yn ddiweddar mewn perthynas â'r argymhellion sydd wedi'u cynnwys yn yr un ymgynghoriad ar gyfer gwneud newidiadau i wasanaethau a ddarperir yn ysbyty'r Tywysog Philip yn Llanelli. Bydd y pwyllgor yn ystyried hyn yn y dyfodol agos.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n siŵr y bydd y pwyntiau a godir yma heddiw o ddiddordeb mawr i'r deisebwyr. Mae'n amlwg hefyd y bydd y penderfyniadau a wnaethpwyd gan y bwrdd iechyd yn gynharach heddiw yn siom fawr i'r rhai a lofnododd y ddeiseb hon ac i nifer o bobl yn Sir Benfro a gorllewin Cymru yn ehangach. Rwyf hefyd yn siŵr fod nifer fawr o'r Aelodau yma heddiw yn dymuno siarad ar y pwnc hwn, ac fe'i gadawaf i eraill ymhelaethu ar yr egwyddorion a'r dadleuon sy'n ganolog i'r mater hwn. Y cyfan sydd ar ôl i mi ei ddweud yw y bydd y Pwyllgor Deisebau yn dychwelyd i ystyried y ddeiseb ymhellach yn y dyfodol yng ngoleuni'r drafodaeth yma heddiw, ac y bydd y cyfraniadau amrywiol y byddwn yn eu clywed yn cefnogi'r ystyriaethau hynny'n fawr. Diolch yn fawr.