Part of the debate – Senedd Cymru am 5:35 pm ar 26 Medi 2018.
Rwy'n cytuno â Joyce Watson; mae angen i ni gael dadl resymol am y gwasanaethau iechyd, a chredaf fod y ddadl hon wedi bod yn rhesymol. Bu rhai areithiau angerddol, wrth gwrs, yn anochel, oherwydd mae pobl yn teimlo'n gryf iawn, yn Sir Benfro yn arbennig, eu bod yn cael eu hanghofio, eu hesgeuluso a'u hamddifadu gan y gwasanaeth iechyd ac nad yw eu hanghenion yn cael sylw priodol yn awr, heb sôn am yn y dyfodol pe bai'r cynlluniau hyn yn cael eu rhoi ar waith.
Nid oes neb yn gwadu'r problemau anhydrin sy'n wynebu'r gwasanaeth iechyd ledled y Deyrnas Unedig—mae cyllid yn broblem ym mhob man ac mae'r anghenion, fel y gwyddom, yn tyfu. Mae gennym wasanaeth iechyd gwladol, ond nid yw'r gwasanaeth iechyd gwladol yn ddim os nad yw'n wasanaeth lleol hefyd. Nid oes ond angen i chi edrych ar fap i weld daearyddiaeth ardal Hywel Dda. Mae Sir Benfro'n gwthio allan i'r môr, ac rwy'n credu bod pobl Sir Benfro yn teimlo fel pe bai Hywel Dda yn palu anferth o ffos rhwng Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin a Cheredigion a'u bod yn arnofio ymhellach ac ymhellach i ffwrdd o ganol pethau. Ni all neb fychanu'r ymdeimlad dilys o bryder ac ofn a gynrychiolir gan y ddeiseb ddigynsail hon yr ydym yn ei thrafod heddiw.
Y broblem sylfaenol sy'n ein hwynebu yma yw bod y gwasanaeth iechyd yn gwbl annemocrataidd, a chaiff y penderfyniadau pwysig eu gwneud gan dechnocratiaid anetholedig na allwn eu diswyddo, ac anatebol yn y pen draw. Ni chaiff y cynghorau iechyd cymuned eu hethol a gellir yn hawdd eu llenwi ag aelodau ufudd nad ydynt yn cyrraedd disgwyliadau'r bobl y maent yno i'w gwasanaethu. Rwy'n credu bod yr ymarfer hwn o ymgynghoriad rydym yn edrych arno heddiw yn enghraifft o hyn hefyd. Cyfeiriodd Lee Waters ati fel dogfen annealladwy ac rwy'n cytuno'n llwyr ag ef—mae hi gennyf yn y fan hon. Nid oes ond angen ichi edrych arni i weld bod y penderfyniad, i bob pwrpas, wedi'i wneud hyd yn oed cyn i'r ymgynghoriad ddechrau. Nid yw'n syndod ym mharagraff 1.106 mai'r casgliad yw bod cefnogaeth y cyhoedd i'r hyn y mae'r bwrdd iechyd yn mynd i'w hyrwyddo bellach wedi'i yrru gan leoliad. Wel, beth fyddech chi'n ei ddisgwyl? Mae pobl am gael gwasanaethau ysbyty sy'n agos at ble maent yn byw. Hynny yw, mae'n ffaith amlycach na'r un y gallech ei dychmygu; nid oes angen ymgynghoriad â'i holl gost er mwyn dod i'r casgliad hwn. Ychydig baragraffau cyn hynny, mae'r bwrdd iechyd yn dweud:
Mae'n bwysig cydnabod bod cefnogaeth gyhoeddus gref iawn i ddewis arall amgen ar draws sawl rhan o Sir Benfro.
Mewn geiriau eraill, nid yw pobl Sir Benfro eisiau'r un o'r dewisiadau—ac nid yw hynny'n cael ei gynnig. Pe bai hwn yn ymgynghoriad go iawn, byddai wedi cynnwys y dewis amgen a allai fod wedi bod yn dderbyniol i bobl Sir Benfro. Mae wedi bod yn ymgynghoriad eithriadol. Mae'n 'anymgynghoriad' i'r rhan fwyaf o bobl yn Sir Benfro, ac mae hynny, fe gredaf, yn gwbl annerbyniol.
Rwy'n cytuno'n llwyr hefyd â'r hyn a ddywedodd Rhun ap Iorwerth ar ran Plaid Cymru. Mae gan bobl hawl i ddisgwyl bod y prif wasanaethau y maent yn mynd i fod eu hangen, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig lle mae'r cysylltiadau trafnidiaeth yn wael, lefelau tlodi'n uwch ac oedran y boblogaeth yn tueddu i fod yn uwch hefyd—mae ganddynt hawl i ddisgwyl i'w gwasanaethau fod o fewn pellter rhesymol.
Rwy'n cytuno hefyd gyda'r hyn a ddywedodd Helen Mary Jones, ac mae eraill wedi cyfeirio at hyn hefyd, na allwn roi'r drol o flaen y ceffyl. Rhaid inni beidio â chynllunio i gau cyfleusterau pwysig sy'n diwallu angen hanfodol hyd nes y bydd gennym y blociau adeiladu ar gyfer yr hyn sy'n mynd i gymryd eu lle. Felly, credaf fod hyn wedi cael ei drin yn y ffordd fwyaf ansensitif.
Ac yna, wrth gwrs, down at yr eliffant yn yr ystafell ar ffurf yr Ysgrifennydd iechyd, oherwydd yn y pen draw, mae Hywel Dda bellach o dan ei oruchwyliaeth ef, fel y mae Betsi Cadwaladr yng ngogledd Cymru, ac ni all Llywodraeth Cymru olchi ei dwylo rhag bod yn gyfrifol am yr hyn sy'n digwydd yma. Yn y pen draw, cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw darparu'r arian ar gyfer pob un o ardaloedd y byrddau iechyd, ac nid wyf yn bychanu'r problemau sy'n wynebu'r Ysgrifennydd cyllid wrth wneud i'w rifau wneud synnwyr. Mae'n amhosibl gwneud popeth y mae pobl yn ei ddisgwyl ac am ei gael gan y gwasanaeth iechyd. Iaith blaenoriaethau yw sosialaeth fel y dywedodd rhywun enwog amser maith yn ôl—yn wir, os cofiaf yn iawn, rwy'n credu mai'r dyn a sefydlodd y gwasanaeth iechyd, Aneurin Bevan, a ddywedodd hynny mewn gwirionedd. Wel, mae pobl Sir Benfro yn disgwyl y byddant yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac os cânt eu hamddifadu gan yr Ysgrifennydd iechyd, caiff ei gofio nid fel y cofir am Aneurin Bevan heddiw, fel achubydd a sylfaenydd y gwasanaeth iechyd, ond fel Pontiws Peilat y gwasanaeth iechyd, a wnaeth gam â phobl Sir Benfro yn y pen draw.