Part of the debate – Senedd Cymru am 5:22 pm ar 26 Medi 2018.
A wnewch chi dderbyn ymyriad? Rydych chi a minnau'n cynrychioli'r un ardal, lle mae Ysbyty Treforys wedi'i leoli. A ydych yn rhannu fy mhryderon, os yw'r holl wasanaethau hyn yn cael eu gwthio tua'r dwyrain, byddant yn cyrraedd cyn belled â Threforys, sydd eisoes wedi ei orlwytho gan y galwadau eraill sydd arno? Er ei bod hi'n wych fod gennym bethau, gobeithio, fel llawdriniaeth thorasig yn dod atom fel arbenigedd, pan fydd gennych wasanaethau argyfwng, mae angen i chi fod yn agos at y man lle mae'r argyfwng yn digwydd.