Gwasanaethau Bysiau yng Nghefn Gwlad

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 2 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:35, 2 Hydref 2018

Wel, mae rhwydwaith bysiau cynaliadwy yn hanfodol i bobl sy’n byw mewn cymunedau gwledig. Byddwn ni’n gweithio, wrth gwrs, gyda’n partneriaid i ariannu gwasanaethau a chyfleusterau allweddol, a gwella mynediad atynt hefyd, wrth gwrs. Fel rhan o’r strategaeth honno, wrth gwrs, rŷm ni'n moyn sicrhau ein bod ni'n gwella'r system fysiau ac, wrth gwrs, mae yna gyfle dros y blynyddoedd nesaf, achos y ffaith bod gennym ni rym nawr dros fysiau, i greu deddfwriaeth er mwyn sicrhau nad yw'r problemau rŷm ni wedi eu gweld dros y blynyddoedd, lle mae cwmnïau yn cwympo wrth ei gilydd ac o achos hynny yn ffaelu cario ymlaen gyda gwasanaethau, yn digwydd yn y pen draw, a bod mwy o sicrwydd i bobl nid dim ond mewn ardaloedd gwledig ond trefol hefyd.