1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 2 Hydref 2018.
2. Beth yw gweledigaeth tymor hir Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu gwasanaethau bysiau yng nghefn gwlad? OAQ52656
Wel, mae rhwydwaith bysiau cynaliadwy yn hanfodol i bobl sy’n byw mewn cymunedau gwledig. Byddwn ni’n gweithio, wrth gwrs, gyda’n partneriaid i ariannu gwasanaethau a chyfleusterau allweddol, a gwella mynediad atynt hefyd, wrth gwrs. Fel rhan o’r strategaeth honno, wrth gwrs, rŷm ni'n moyn sicrhau ein bod ni'n gwella'r system fysiau ac, wrth gwrs, mae yna gyfle dros y blynyddoedd nesaf, achos y ffaith bod gennym ni rym nawr dros fysiau, i greu deddfwriaeth er mwyn sicrhau nad yw'r problemau rŷm ni wedi eu gweld dros y blynyddoedd, lle mae cwmnïau yn cwympo wrth ei gilydd ac o achos hynny yn ffaelu cario ymlaen gyda gwasanaethau, yn digwydd yn y pen draw, a bod mwy o sicrwydd i bobl nid dim ond mewn ardaloedd gwledig ond trefol hefyd.
O blith pawb sydd yn defnyddio cludiant cyhoeddus, mae 80 y cant yn defnyddio bysiau. Mewn ardaloedd gwledig, fel rhannau o f'etholaeth i yn Arfon, nid oes trenau ar gael a mynd ar y bws ydy'r ffordd i bobl sydd heb geir deithio i'w gwaith ac i gyrraedd at wasanaethau hanfodol. Ond y gwir ydy, mae angen trawsnewid gwasanaethau bysiau gwledig, ac mae Plaid Cymru eisiau rhoi llawer mwy o rym i gynghorau lleol fel eu bod nhw'n gallu trefnu gwasanaethau addas, ar y cyd â chwmnïau bysus lleol. Mae yna rai cymunedau hefyd wedi datgan awydd i dreialu system integredig a fyddai'n cynnwys defnyddio cerbydau trydan a hydrogen i lenwi rhai o'r bylchau yn y gwasanaethau presennol. Pa gymorth ymarferol y gallwch chi fel Prif Weinidog ei roi tuag at gynlluniau peilot o'r math yna?
Wel, wrth gwrs, rydym ni'n agored i weld pa fath o fìd fyddai'n dod o unrhyw awdurdod lleol. Un peth y byddwn i yn ei ddweud yw ei bod hi'n hollbwysig sicrhau bod yr awdurdodau'n gweithio gyda'i gilydd, achos, wrth gwrs, y gwir yw nad yw pobl ond yn teithio y tu fewn i un sir; maen nhw'n teithio o le i le. So, byddai'n hollbwysig sicrhau bod y gwasanaethau sydd yn mynd ar draws ffiniau yn cael yr un sylw â'r rheini sydd y tu fewn i sir hefyd. Ond, wrth gwrs, rŷm ni'n moyn gweithio gydag awdurdodau lleol a hefyd gyda chwmnïau bysiau er mwyn sicrhau bod y system yn fwy cynaliadwy yn y pen draw.
Mae angen, rwy'n credu, ystyried sut y mae gwasanaethau bysiau gwledig yn cael eu darparu oherwydd ni fyddant byth yn cael eu rhedeg yn fasnachol, wrth gwrs. Nawr, mae angen i Lywodraeth Cymru a gweithredwyr awdurdod lleol, rwy'n credu, ddod at ei gilydd i ffurfio partneriaeth, ac nid yw'r bartneriaeth honno'n bodoli ar hyn o bryd. A all Llywodraeth Cymru chwarae rhan flaenllaw i ffurfio partneriaeth o'r fath?
Wel, un o'r anawsterau, wrth gwrs, yw ein bod ni wedi gweld cwmnïau bysiau yn mynd i'r wal ac, o ganlyniad, ceir toriad mewn gwasanaethau. Yn aml iawn, wrth gwrs, cânt eu hail-ddarparu gan ddarparwr arall. Rydym ni wedi gweld Arriva, er enghraifft, yn tynnu allan o Geredigion gyfan, i bob pwrpas, er gwaethaf y ffaith eu bod nhw'n gweithredu'r gwasanaethau bysiau yno ac, wrth gwrs, daeth cwmnïau newydd ymlaen. Ond, unwaith eto, roedd ansicrwydd ac, unwaith eto, roedd bwlch posibl yn y gwasanaeth. Nawr, cynhaliwyd ymgynghoriad gennym y llynedd, fel y gwyr ef, ar gynigion a fyddai'n cryfhau'r trefniadau ar gyfer cynllunio a darparu gwasanaethau bws lleol yn y dyfodol ac, wrth gwrs, bydd angen i ni ystyried dros yr ychydig flynyddoedd nesaf sut y gallwn ni sicrhau parhad gwasanaeth lle nad oes cymhorthdal i'r gwasanaeth hwnnw a lle, wrth gwrs, y gall y gweithredwr preifat ei ddarparu ym mha fodd bynnag y mae'n dymuno. Nawr, mae'n amlwg nad yw hwnnw'n fodel cynaliadwy ar gyfer y dyfodol, ond nawr bod gennym ni'r pwerau yr ydym ni wedi gofyn amdanynt ers gymaint o amser dros y rhwydwaith bysiau, ceir cyfle cyffrous i lunio rhwydwaith mwy integredig a chynaliadwy yn y dyfodol.
Ceir potensial enfawr i'r datblygiadau mewn technoleg wella profiad teithwyr a gwella dichonoldeb bysiau. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ariannu'r prosiect Bwcabus yng Ngheredigion a sir Gaerfyrddin, sydd wedi defnyddio model sy'n ymateb i'r galw i wneud cludiant cyhoeddus yn ddichonol ar lwybrau llai. Ceir potensial mawr i'r math hwnnw o ddull, wedi ei gyfuno â thechnoleg ap. Mae unrhyw un sydd wedi archebu tacsi trwy ap yn gwybod y gallwch chi drefnu amser, y gallwch chi ddarganfod y pris, eich bod chi'n gwybod pa mor hir y mae'n mynd i'w gymryd. A wnaiff y Prif Weinidog ystyried sut y gellid cymhwyso'r math hwnnw o dechnoleg i fysiau ledled Cymru i wneud cludiant cyhoeddus yn ddewis ymarferol i bobl o ddydd i ddydd?
Gwnaf, mi wnaf. Mewn llawer o ardaloedd gwledig, fel y mae'r Aelod yn ei ddweud yn gywir, mae Bwcabus wedi bod yn eithriadol o bwysig o ran gallu darparu cludiant cyhoeddus pan na fyddai ar gael fel arall. Wrth i ni weld technoleg yn datblygu, fel y dywed yn gywir, yna ceir cyfle i gynyddu hyblygrwydd, i gael gwell syniad o ble mae'r galw ar adegau penodol o'r dydd ac, wrth gwrs, i bobl fod yn siŵr y bydd bws yn cyrraedd pan fydd angen y bws hwnnw arnyn nhw. Mae'n cymylu mewn rhai ffyrdd y gwahaniaeth rhwng gwasanaethau bws a gwasanaeth tacsi, mewn rhai rhannau o Gymru. Nid yw hynny o reidrwydd yn beth gwael, gan ei fod yn creu'r math hwnnw o hyblygrwydd, ac rwy'n credu ei fod yn llygad ei le i ddweud, gyda thechnoleg nawr, bod digon o gyfle i ni ymestyn gwasanaethau bws mwy hyblyg i rannau o Gymru efallai nad ydynt wedi gweld gwasanaeth bws ers blynyddoedd maith.