Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 2 Hydref 2018.
Wel, gadewch i mi eich atgoffa chi, Prif Weinidog, bod y sefydliad hwn, wrth gwrs, yn atebol yn uniongyrchol i'ch Llywodraeth chi. Mae'n cael £180 miliwn o arian cyhoeddus bob blwyddyn, ac eto mae'n gyfrifol am lu o fethiannau, sydd wedi arwain at gostau sylweddol i'r pwrs cyhoeddus. Mewn dim ond pum mlynedd ers ei sefydlu, mae cyfrifon blynyddol Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cael eu cymhwyso am dair blynedd yn olynol, ac maen nhw wedi gwerthu coed Cymru yn rhy rhad heb broses dendro briodol, gan arwain at golled o £1 filiwn i drethdalwyr Cymru. Mae'r cyhoedd yn galw am ddiswyddiadau. Mae angen atebolrwydd arnom ni. A oes unrhyw un yn Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ei ddiswyddo am y methiannau hyn?