Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 2 Hydref 2018.
Wel, bydd ef yn gwybod, wrth gwrs, bod y cadeirydd wedi mynd, a'r cam nesaf fydd penodi cadeirydd newydd. Bydd yn gwybod bod prif weithredwr newydd, sydd wedi disodli rhywun â phrofiad enfawr, yn enwedig yn rhan o'r gwasanaeth llysoedd, ac roedd yn ymwneud yn benodol â'r mater o gontractau coed, nad oes unrhyw esboniad rhesymegol iddo, ac mae hynny'n rhywbeth y bu'n rhaid iddyn nhw ei egluro, o ran yr hyn y maen nhw'n bwriadu ei wneud yn y dyfodol yn arbennig. Ond credaf ei bod yn anghywir dweud nad yw'r sefydliad cyfan, rywsut, yn addas i'w ddiben. Nid oes unrhyw broblem, er enghraifft, gyda'i drefn drwyddedu na'r ffordd y mae'n gwneud hynny, ond mae'n amlwg y bu problem gyda choed.