Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 2 Hydref 2018.
Wel, wrth gwrs, rydym ni'n agored i weld pa fath o fìd fyddai'n dod o unrhyw awdurdod lleol. Un peth y byddwn i yn ei ddweud yw ei bod hi'n hollbwysig sicrhau bod yr awdurdodau'n gweithio gyda'i gilydd, achos, wrth gwrs, y gwir yw nad yw pobl ond yn teithio y tu fewn i un sir; maen nhw'n teithio o le i le. So, byddai'n hollbwysig sicrhau bod y gwasanaethau sydd yn mynd ar draws ffiniau yn cael yr un sylw â'r rheini sydd y tu fewn i sir hefyd. Ond, wrth gwrs, rŷm ni'n moyn gweithio gydag awdurdodau lleol a hefyd gyda chwmnïau bysiau er mwyn sicrhau bod y system yn fwy cynaliadwy yn y pen draw.