Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 2 Hydref 2018.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, wrth i'r inc ddechrau sychu ar lythyr ymddiswyddiad yr wythnos diwethaf, mae'r pwyslais yn symud yn naturiol i'r etifeddiaeth y byddwch chi'n ei gadael ar eich ôl: yn agos at chwarter ein pobl a thraean o'n plant mewn tlodi; disgwyliad oes yn symud tuag at yn ôl ac yn gostwng ynghynt nag mewn unman arall yn Ewrop; economi sy'n ddi-fywyd, â Chymru'n sownd ar waelod y tabl cynghrair yn barhaus. Onid yw hyn yn nodweddiadol o'ch Llywodraeth chi? Tlodi mewn uchelgais sef yr achos sylfaenol am dlodi ein pobl. A ydych chi'n gresynu gadael economi y mae hyd yn oed y cyn-wledydd comiwnyddol yn rhagori arni erbyn hyn?