Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 2 Hydref 2018.
Wel, gellir gwneud hynny trwy ddatblygu cynlluniau tymor canolig integredig tair blynedd y byrddau. Maen nhw'n darparu proffiliau capasiti a galw manwl ar gyfer y flwyddyn hon, ac mae'n ofynnol iddyn nhw ddangos llwybrau eglur o ran sut y maen nhw'n bwriadu parhau i leihau amseroedd aros ar gyfer diagnosteg ac ar gyfer triniaeth. Yn y tymor hwy, wrth gwrs, rydym ni'n cydnabod yr angen i weddnewid y ffordd y mae gwasanaethau yn cael eu darparu, a dyna pam yr ydym ni wedi sefydlu cronfa o £100 miliwn i ddatblygu ffyrdd newydd o weithio.