Hawliau Plant a Phobl Ifanc

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 2 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 2:00, 2 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Prif Weinidog. Byddwch yn ymwybodol, yr wythnos diwethaf, i ni groesawu i'r Cynulliad Cenedlaethol Bruce Adamson, comisiynydd plant yr Alban, a gyflwynodd y ddarlith goffa flynyddol gyntaf er cof am eich rhagflaenydd, Rhodri Morgan. Wrth siarad am ddeddfwriaeth Cymru, dywedodd Mr Adamson hyn:

Mae cymaint yr wyf i'n ei hoffi, rwy'n hoffi'r dull rhagweithiol o ymdrin â chydymffurfiad, rwy'n credu ei fod yn rhoi'r cyfle i randdeiliaid ddylanwadu ar sut y mae hawliau plant yn cael eu hymwreiddio mewn deddfwriaeth a thrwy lunio polisi, ond nid yw'n ymgorffori llawn.

Yn eich cyfarfod â'r Comisiynydd Plant yr wythnos nesaf, Prif Weinidog, a wnewch chi ymrwymo i drafod â hi a oes angen i ni efallai gymryd camau pellach i ymgorffori'n llawn Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, boed hynny trwy welliant i'r Mesur presennol neu, os oes angen, i ymgorffori mwy pellgyrhaeddol, cwbl gynhwysfawr? Mae'r broblem, rwy'n credu, Prif Weinidog, yn ymwneud â'r gallu i'r plentyn unigol sicrhau y cydymffurfir â'i hawliau ac i gamau unioni gael eu cymryd. Felly, byddwn i'n ddiolchgar iawn, Prif Weinidog, pe gallech chi drafod hyn gyda'n comisiynydd plant ni a gweld a yw hi'n teimlo bod camau pellach y dylid eu cymryd.