Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 2 Hydref 2018.
Ar bwynt tebyg, a dweud y gwir, yn yr adroddiad ar gydymffurfiad adran 1 y Mesur, nododd Llywodraeth Cymru mai ei bwriad fel cam nesaf yw:
adolygu ein strategaeth i gefnogi ac i dynnu sylw at bwysigrwydd cyfranogiad gan blant a phobl ifanc mewn penderfyniadau sy'n effeithio arnyn nhw.
Rwyf i wedi codi hyn o'r blaen, yn yr un modd â Helen Mary, yr anghysondeb hwn rhwng polisi'r Llywodraeth a deddfwriaeth y Cynulliad, a ddylai gael ei wneud gan roi sylw dyledus i erthygl 12 ymhlith eraill, a'r gallu i gyrff cyhoeddus sy'n darparu'r polisi hwnnw neu'r ddeddfwriaeth honno i arsylwi neu anwybyddu erthygl 12 fel sy'n gyfleus iddynt, sy'n golygu y gall bwriadau polisi neu ddeddfwriaethol weithiau gael eu gwanhau neu fethu'n llwyr. Yn amlwg, rydym ni'n gwybod am rai achosion o ufuddhau gwirfoddol, ond eithriad yw'r rhain yn hytrach na'r rheol. Mae cefnogi a thynnu sylw yn iawn, ond lle mae disgwyliad yn methu, gall deddfwriaeth gamu i mewn. A ydych chi'n credu efallai ein bod ni wedi cyrraedd y pwynt hwnnw nawr?