Refferendwm Arall ar yr UE

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 2 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Steffan Lewis Steffan Lewis Plaid Cymru 2:15, 2 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n dal i fod ar goll yn llwyr o ran deall pam yn union y mae'r Prif Weinidog yn credu y byddai etholiad cyffredinol â chanlyniad pendant—gyda'r fuddugoliaeth i Lafur y byddai'n dymuno ei gweld, rwy'n tybio—yn helpu ei Lywodraeth i 'Ddiogelu Dyfodol Cymru' ymhellach, sy'n dal i fod yn un o bolisïau Llywodraeth Cymru rwy'n tybio. Oherwydd os ceir Llywodraeth Lafur fwyafrifol mewn unrhyw etholiad cyffredinol dirybudd, byddwn yn gadael y farchnad sengl ac yn gadael yr undeb tollau, ac ni fyddai gan bobl unrhyw hawl o gwbl i gael lleisio eu barn ar y cwestiwn hwnnw yn briodol. Felly, hyd yn oed o edrych eto ar y cwestiwn o amserlenni, gan dybio y bydd etholiad cyffredinol ym mis Ionawr, heb ymestyn erthygl 50 mae hynny'n ddau fis—tri mis ar y mwyaf—a fyddai gan Lywodraeth Lafur i drafod ein hymadawiad â'r farchnad sengl a'r undeb tollau, sef, wrth gwrs, union bolisi Llywodraeth bresennol y Deyrnas Unedig. Felly, yn hytrach na mynd drwy'r holl lol hwnnw, pam na all y Prif Weinidog ddweud, 'Gadewch i'r bobl benderfynu, a gadewch iddyn nhw benderfynu nawr'?