Peilonau ar Ynys Môn

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 2 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:20, 2 Hydref 2018

Mae hynny'n iawn. Rŷm ni, fel Llywodraeth, wrth gwrs, wedi gwneud y pwynt hwn i'r grid ei bod yn bwysig dros ben i ystyried pont newydd—trydedd bont ar draws y Menai—er mwyn sicrhau bod y ceblau’n gallu mynd ar y bont honno. Mae yna gytundeb ffurfiol wedi cael ei wneud rhyngom ni a’r grid i ystyried y ceblau hyn ac rwy’n credu y byddai’n rhywbeth a fyddai'n hollol synhwyrol os oes yna unrhyw broblem ymarferol ynglŷn â hynny. O achos y ffaith ein bod ni’n barti statudol, wrth gwrs y byddwn ni’n cymryd rhan yn arolygiad y gorchymyn caniatâd datblygu ei hun, a byddwn ni yn datblygu datganiad o dir cyffredin gyda’r grid ynglŷn â’r project ei hun. Ond, wrth gwrs, bydd y grid yn gwybod beth yw barn y Cynulliad hwn a barn pobl leol. Rydym ni fel Llywodraeth yn moyn sicrhau bod unrhyw impact ar yr ardal yn cael ei gadw’n impact bach a’r lleiaf sy’n bosib.