Cofio'r Rhyfel Byd Cyntaf

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 2 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:04, 2 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Gallaf gadarnhau fy mod i wedi cytuno y llynedd i barhau'r rhaglen tan 2020. Nid y cadoediad oedd y diwedd, wrth gwrs. Rydym ni'n gwybod y daeth cynhadledd heddwch Paris ac yna Cytundeb Versailles, a arweiniodd at yr ail ryfel byd, ond ceir terfyn i ba mor bell y gallwn ni fynd o ran ymdrin ag etifeddiaeth y rhyfel byd cyntaf. Mae'n arwyddocaol i Gymru, wrth gwrs, gan fod dau Gymro yn rhan ohono—David Lloyd George a Billy Hughes. Dywedir eu bod yn siarad Cymraeg â'i gilydd. Nid wyf i'n hollol siŵr, oherwydd magwyd Billy Hughes yn Llundain o dras Gymreig, rwy'n credu. Ond, beth bynnag, mae'n eithriadol o bwysig oherwydd os yw pobl ifanc yn mynd i ddeall etifeddiaeth y rhyfel byd cyntaf, yna mae etifeddiaeth yr heddwch yn amlwg yn rhan bwysig o hynny, a sut i wneud pethau'n anghywir o ran cytundeb heddwch a sut i greu problemau ar gyfer y dyfodol. Felly, bydd yn para tan 2020. Gallaf sicrhau'r Aelod ein bod ni'n ystyried etifeddiaeth y rhaglen nawr, sut y gellir defnyddio'r adnoddau a ddatblygwyd yn y dyfodol, a sut yr ydym ni'n osgoi sefyllfa lle mae'n dod i ben yn 2020 ac y mae popeth yn cael ei anghofio. Dyna'r peth olaf yr ydym ni eisiau ei weld.