Part of the debate – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 2 Hydref 2018.
Diolch, Llywydd. Mae dau newid i fusnes yr wythnos hon: gohiriwyd datganiad heddiw am ganfyddiadau'r rhaglen garlam annibynnol i adolygu galwadau melyn, ac yn hytrach ychwanegwyd datganiad ar 'Yr wybodaeth ddiweddaraf am broffylacsis cyn-gysylltiad—ein dull o weithio yng Nghymru'. Mae'r busnes drafft ar gyfer yr ychydig wythnosau nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, y gellir ei weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.