– Senedd Cymru am 2:21 pm ar 2 Hydref 2018.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes. Rydw i'n galw ar arweinydd y tŷ i wneud ei datganiad—Julie James.
Diolch, Llywydd. Mae dau newid i fusnes yr wythnos hon: gohiriwyd datganiad heddiw am ganfyddiadau'r rhaglen garlam annibynnol i adolygu galwadau melyn, ac yn hytrach ychwanegwyd datganiad ar 'Yr wybodaeth ddiweddaraf am broffylacsis cyn-gysylltiad—ein dull o weithio yng Nghymru'. Mae'r busnes drafft ar gyfer yr ychydig wythnosau nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, y gellir ei weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar y cynnig cyflog presennol i ddarlithwyr a wnaed gan ColegauCymru, os gwelwch yn dda? Mae cyhoeddiadau Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod addysg bellach yn cynnig cyfleoedd i unigolion feithrin a chyflawni eu huchelgeisiau. Gorau'n byd yw sgiliau pobl, gwell yw eu gobaith am gyflogaeth deg, sicr a boddhaol. A'r cryfaf yw'r sylfaen sgiliau yng Nghymru, y mwyaf o gyfleoedd sydd gennym o ddenu busnesau newydd yn ogystal â meithrin y rhai sy'n bodoli eisoes i wella ffyniant. Mae un o'm hetholwyr yn honni bod pryderon am lefelau cyflog wedi peri i lawer adael eu swyddi am gyflogaeth fwy proffidiol, a bod prinder ymgeiswyr am swyddi sy'n gofyn am sgiliau penodol, megis peirianneg ac adeiladu. Mae'n flin gennyf—dyna ni, rwy'n credu. Nid yw'r ail ochr gennyf. Felly, yn y bôn, rwyf eisiau gweld datganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg ar y cynnig cyflog presennol i ddarlithwyr, os gwelwch yn dda.
Ie. Rwy'n credu bod problem wirioneddol yma ynghylch y swm o arian sydd ar gael i Lywodraeth Cymru i dalu'r telerau ac amodau yr hoffem eu talu. Fodd bynnag, mae'r Llywodraeth hon, wrth gwrs, wedi sicrhau cydraddoldeb ar gyfer darlithwyr addysg bellach ac athrawon, a gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi amlygu'r pwynt hwnnw yn glir ar sawl achlysur yn y Siambr hon. Nid wyf yn credu y dylai orfod gwneud hynny eto mewn datganiad.
Arweinydd y tŷ, gwyddom, wrth gwrs, fod ymwelwyr rhyngwladol yn mynd i fod yn hanfodol bwysig i lwyddiant twristiaeth Cymru yn y dyfodol, ond mae yna nifer o feysydd allweddol y mae angen inni eu datblygu ymhellach os ydym am gyflawni'r twf cyson a dwys yr ydym i gyd am ei weld. Mae marchnata rhyngwladol Croeso Cymru a sut yr ydym yn targedu pobl, yn enwedig yn y marchnadoedd allweddol, yn un elfen bwysig, a hefyd, wrth gwrs, y cysylltiadau awyr uniongyrchol sydd ar gael o Gymru yn enwedig o Faes Awyr Caerdydd.
Yn ddiweddar, rydym ni wedi bod yn gweld bod nifer y teithwyr ar y llwybr uniongyrchol o Gaerdydd i Qatar yn codi, a bydd hyn, gobeithio, yn rhoi hyder i gwmnïau eraill a chryfhau'r achos dros gael cysylltiadau uniongyrchol i gyrchfannau allweddol eraill. Yn ddiweddar, hefyd, wrth gwrs, mae Maes Awyr Caerdydd wedi datgelu ei master plan am yr 20 mlynedd nesaf, ac yn gynharach eleni, fe wnaeth y prif weithredwr, Willie Walsh, sôn am ei obaith o ddatblygu gwasanaeth trawsatlantig, trawsiwerydd, o Faes Awyr Caerdydd.
Felly, gyda llawer i'w drafod yn y maes yma, a fyddai'r Llywodraeth yn cytuno i gyflwyno datganiad a fyddai'n canolbwyntio ar waith Croeso Cymru mewn marchnadoedd allweddol, a hefyd y gwaith sy'n digwydd, a'r cynlluniau pellach ynglŷn â datblygu cysylltiadau awyr uniongyrchol o Gymru? Diolch yn fawr.
Ydy, mae'r maes hwn yn cynyddu yn ei bwysigrwydd, yn enwedig yng ngoleuni'r anawsterau yr ydym yn eu cael wrth drafod trefniadau synhwyrol ar gyfer Brexit. Mae'n bwysig iawn i'r Llywodraeth hon ein bod yn parhau i sicrhau bod Cymru yn agored iawn i fusnes gyda holl aelod-wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd, ac ar draws y byd. Mae'r Gweinidog yn tynnu fy sylw ei fod yn barod iawn i gyflwyno datganiad i'r perwyl hwnnw.
Ychydig ddyddiau yn ôl cysylltodd etholwr o Riwbeina, yn fy etholaeth i yng Ngogledd Caerdydd, â mi i sôn am ei merch pedair oed sydd newydd gael diagnosis o alergedd difrifol i gnau daear. Dywedwyd wrthi i ddechrau nad oedd unrhyw EpiPens i'r ifanc ar gael mewn unrhyw fferyllfa. Ffoniodd bob fferyllfa yng Nghaerdydd heb unrhyw lwc. Ond ers hynny mae wedi dod o hyd i ddwy fferyllfa yn Abertawe. Yn amlwg, dyma sefyllfa sy'n peri pryder aruthrol. Rwy'n credu mai'r cyngor yw, os nad ydych yn gallu dod o hyd i EpiPen, eich bod yn defnyddio hen un, ond, wrth gwrs, gan mai dim ond yn ddiweddar y cafodd ddiagnosis, does ganddi hi ddim hen EpiPens, ac mae angen nifer ohonynt arni ar gyfer yr holl lefydd gwahanol y mae'n mynd iddynt. Mae'n sefyllfa sy'n peri pryder mawr, a gofynnodd i mi grybwyll y mater gyda Llywodraeth Cymru, ac i ofyn a oes modd gwneud datganiad brys i ddweud beth sy'n digwydd yn y sefyllfa hon, gyda'r diffyg stoc.
Yr ail fater yr oeddwn am ei grybwyll oedd: y bore 'ma, es i ddathliad a drefnwyd gan Gyngor Hindŵ Cymru, yn ymyl cerflun Gandhi, i ddathlu blwyddyn ers gosod y cerflun, yn ogystal â nodi Diwrnod Heddwch Rhyngwladol. Tybed a oes modd cael datganiad am bwysigrwydd sicrhau bod disgyblion ysgol, yn benodol, yn ymwybodol o hanes enwogion fel Gandhi a'r hyn a gyflawnwyd ganddynt a'u cyfraniadau, fel bod y cerfluniau hyn yn dod yn fyw yn nychymyg pobl Caerdydd, yn enwedig yr ifanc.
Ie, wel, o ran mater pwysig yr EpiPens, rydym yn ymwybodol o brinder cynnyrch EpiPen yn y DU ar y funud. Mae'n fater byd-eang, ac rydym yn cydweithio â Llywodraeth y DU, yn ogystal â'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd, yr MHRA, i'w ddatrys. Er bod cynnyrch EpiPen, yn wir, yn brin ar hyn o bryd, mae chwistrellwyr adrenalin awtomatig amgen yn parhau i fod ar gael, ac mae'r cynhyrchwyr yn cydweithio â'r cadwyni cyflenwi i gynyddu'r cyflenwad yn y DU. Ddydd Gwener ddiwethaf, cyhoeddwyd canllawiau manwl gan yr MHRA i weithwyr gofal iechyd proffesiynol ynglŷn â'r hyn y dylent ei wneud i sicrhau bod y cyflenwadau o chwistrellwyr adrenalin awtomatig yn y DU yn ddigon i ateb y galw presennol. Bydd yr Ysgrifennydd Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwneud datganiad ysgrifenedig yn ystod y dyddiau nesaf, gan nodi manylion y gwaith sydd wedi'i wneud i liniaru hyn, oherwydd pwysigrwydd y mater, ac oherwydd bod yr Aelod wedi codi'r mater heddiw yn y datganiad busnes. Ond, dylai unrhyw glaf sy'n methu â chael gafael ar gyflenwad o EpiPen siarad ar unwaith â'i glinigydd ynghylch defnyddio dyfais chwistrellu adrenalin awtomatig amgen, er mwyn sicrhau ei fod yn ddiogel—yn enwedig yn dilyn yr achos trasig a fu yn y newyddion yn ddiweddar.
O ran y datganiad ynglŷn â'r cerflun a'r dathliadau, ydw, rwy'n hapus iawn i weithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i sicrhau y gallwn ni, y naill neu'r llall, gyflwyno rhywbeth ynghylch pwysigrwydd enwogion hanesyddol sy'n sefyll dros heddwch, yn enwedig yng ngoleuni’r dathliadau i nodi diwedd y rhyfel byd cyntaf, a nifer o bethau eraill, i sicrhau bod y cerfluniau hyn yn rhyngweithiol. Mae'r Aelod yn gwybod fy mod yn awyddus iawn i roi codau QR ac ati ar gerfluniau, fel eu bod yn dod yn fyw wrth inni symud o gwmpas. Yn sicr, gallwn edrych ar hynny.
A gaf i alw am ddatganiad unigol ar gyflwyno mesuryddion clyfar yng Nghymru? Yfory, byddaf yn cynnal digwyddiad gyda Smart Energy GB, lle bydd modd galw i mewn yn Ystafell Giniawa 1 rhwng 11.00 a.m. ac 1.30 p.m. Rwy'n annog yr Aelodau i ddod yno i ddathlu Diwrnod Coffi Rhyngwladol, ac i ddarganfod sawl cwpan o goffi y gallai eich etholwyr eu darparu drwy arbed ynni, ond hefyd, yn fwy difrifol, i roi'r diweddaraf i'r Aelodau am gyflwyno mesuryddion clyfar ac i rannu ffigurau gosod mesuryddion clyfar mewn etholaethau a rhanbarthau penodol.
Gwyddom y cafwyd rhai sylwadau andwyol ar y cyfryngau am fesuryddion clyfar dros yr haf, a'r honiadau na fydd defnyddwyr yn arbed mwy na £11 y flwyddyn ar gyfartaledd. Wrth gwrs, arbediad ar gyfer 2020 yn unig yw hynny; mae'r arbedion a ragwelir yn fwy o lawer. Mae dadansoddiad cost a budd Llywodraeth y DU yn dweud, o ystyried yr holl gostau, y bydd y budd net o'u cyflwyno oddeutu £6 biliwn, a bydd aelwydydd yn gwneud arbedion trwy ddefnyddio ynni'n fwy effeithlon a hefyd o ganlyniad i system ynni glyfar sy'n rhatach i'w rhedeg. Bydd darparu sgriniau mewn cartrefi yn galluogi pobl i fesur eu gwariant mewn punnoedd a cheiniogau, ac felly byddant yn gwneud arbedion o ran eu defnydd domestig, a'r dewis arall, wrth gwrs, yw grid analog sydd yn ddrytach. Yn olaf, maent yn caniatáu mwy o hyblygrwydd o ran defnyddio ynni adnewyddadwy. O ystyried y pwyntiau hyn, gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn gefnogol ac yn darparu datganiad ar eu cyfraniad a'u safbwynt o ran cyflwyno mesuryddion clyfar yng Nghymru, wrth iddynt symud ymlaen.
Wel, rwy'n credu bod yr Aelod ei hun wedi gwneud gwaith arbennig o dda yn nodi gwerth mesuryddion clyfar, ac yn hysbysebu ei ddigwyddiad yfory. Bydd yr Aelod hefyd yn gwybod fy mod yn awyddus iawn i weld faint o ynni yr wyf yn ei wario wrth wneud coffi, gan fy mod yn eithaf hoff ohono, felly byddaf yn siŵr o alw draw yn y digwyddiad yfory, i sicrhau bod gennym bresenoldeb da yno.
A oes modd derbyn datganiad am y sefyllfa efo addysg feddygol ym Mangor—diweddariad, hynny yw? Mae etholwyr yn cysylltu â mi yn gofyn a oes modd gwneud cais eleni ar gyfer astudio'r cwrs israddedig mewn meddygaeth ym Mhrifysgol Bangor o 2019 ymlaen. Mae hyn, wrth gwrs, yng ngoleuni'r cyhoeddiad yn gynharach eleni ynglŷn â'r bartneriaeth rhwng prifysgolion Bangor a Chaerdydd i ddarparu addysg feddygol. Mae yna nifer o fyfyrwyr lleol yn awyddus iawn i wybod a fyddan nhw yn gallu ymgymryd â rhan o'u hyfforddiant ym Mangor yn 2019. Nid ydy hynny'n glir ar hyn o bryd, er mai dyna oedd yr addewid. Felly, byddai datganiad i'r perwyl hwnnw, i glirio hynny i fyny, yn ddefnyddiol iawn. Diolch yn fawr.
Ac a gaf fi ofyn hefyd am ddatganiad, neu wybodaeth, gan y Llywodraeth am bolisi cynllunio Cymru? Pryd fyddwch chi'n debygol o gyhoeddi hwn? A hefyd, a gawn ni ddiweddariad am nodyn technegol 20 am yr iaith Gymraeg? Fe soniwyd dros yr haf y gallai'r Llywodraeth yma fod yn wynebu her gyfreithiol ynglŷn â'r canllaw yma. A oes yna newid barn wedi bod gan y Llywodraeth am TAN 20?
Ac yn olaf, ychydig fisoedd yn ôl, fe ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ei bod hi'n barod i adolygu'r angen am arolygaeth gynllunio ar wahân i Gymru, ac y byddem yn trafod hyn ymhellach. A gawn ni ddatganiad, felly, am safbwynt y Llywodraeth ynglŷn â chreu arolygaeth gynllunio i Gymru, os gwelwch yn dda? Diolch.
Diolch i chi am y tri mater pwysig hynny. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn tynnu fy sylw at y ffaith y bydd y ddau ddiweddariad y soniwyd amdanynt gennych ar gael erbyn diwedd y flwyddyn, ac y bydd yn eu cyflwyno pan fyddant ar gael.
O ran yr addysg feddygol ym Mangor, nid wyf yn siŵr pwy ddylai, ond byddaf yn sicrhau bod un ohonom yn ysgrifennu atoch gyda'r wybodaeth ddiweddaraf am hynny, a bod yr wybodaeth ar gael i bob Aelod.
Arweinydd y tŷ, hoffwn ofyn am ddau ddatganiad. Yr wythnos diwethaf, noddais bapur briffio am arolwg iechyd meddwl mawr Mind Cymru. Casglodd yr arolwg brofiadau dros 500 o bobl hyd a lled Cymru a ddefnyddiodd ofal sylfaenol yn ystod y 12 mis diwethaf. Amlygwyd rhai tueddiadau pwysig, ac mae Mind Cymru yn bwriadu coladu tystiolaeth a data pellach eleni. Mewn ymchwil ar wahân a gyhoeddwyd gan Mind, gwelwyd bod iechyd meddwl bellach yn gyfrifol am 40 y cant o holl apwyntiadau meddygon teulu yng Nghymru. Felly, yn sgil y gwaith ymchwil hwn, a gawn ni ddatganiad ar wasanaethau gofal sylfaenol ac iechyd meddwl yng Nghymru?
Yn ail, efallai bydd rhai Aelodau wedi gweld yr eitem ar newyddion ITV Cymru yr wythnos diwethaf am dîm pêl-droed sy'n cael ei redeg gan glwb pêl-droed Sir Casnewydd ar gyfer pobl sy'n byw gyda chyflyrau iechyd meddwl. Mae chwarae pêl-droed a bod yn rhan o'r tîm wedi trawsnewid bywydau'r rhai sy'n cymryd rhan, ac rwy'n falch iawn fod fy nghyd-Aelodau Jack Sargeant a John Griffiths am ymuno â mi heno i wylio'r Sir yn chwarae, er mwyn darganfod mwy am y gwaith y maent yn ei wneud i gefnogi pobl yn y gymuned leol. Felly, arweinydd y tŷ, a gawn ddatganiad ar sut y gallai Llywodraeth Cymru weithio gyda sefydliadau megis clybiau chwaraeon a sut y gallent helpu pobl â chyflyrau iechyd meddwl?
Diolch i chi am hynny. Rydym yn cytuno'n llwyr fod chwaraeon ac ymarfer corff wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar iechyd meddwl a lles, a dyna'r rheswm pam mae atal yn un o themâu allweddol ein strategaeth 'Law yn llaw at Iechyd Meddwl' a gyhoeddwyd yn 2012. Yn sicr, mae honno'n cynnwys pwyslais ar gymorth nad yw'n gymorth clinigol. Rydym yn awyddus iawn i fanteisio'n llwyr ar y cyfleoedd i roi cymorth i bobl drwy amrywiaeth eang o wasanaethau cymunedol nad ydynt yn rhai clinigol, rhai sy'n cynnig buddion gwirioneddol i iechyd a lles, gan gynnwys cymryd rhan mewn chwaraeon ac ymarfer corff. Yn wir, yr wythnos diwethaf ces gyfle i ymweld â phrosiect, Down to Earth, yn etholaeth Rebecca Evans, sy'n canolbwyntio ar adeiladu cartrefi cynaliadwy i wella iechyd meddwl. Mae'r canlyniadau clinigol sy'n gysylltiedig â'r prosiect yn ddigon i synnu rhywun.
Bwriad y gronfa iach ac egnïol, a lansiwyd ym mis Gorffennaf gan Ysgrifennydd y Cabinet a'r Gweinidog ar gyfer Twristiaeth, Diwylliant a Chwaraeon, yw cefnogi mentrau sy'n gwella iechyd corfforol a meddyliol. Partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Chwaraeon Cymru, ac Iechyd y Cyhoedd Cymru ydyw, ac mae'n cyflawni ymrwymiadau Llywodraeth Cymru i gyflwyno bond lles a chronfa her ar gyfer chwaraeon, a hynny mewn modd integredig. Cam 1 y gronfa oedd cefnogi prosiectau sy'n cryfhau ac yn datblygu asedau cymunedol, gyda £5 miliwn i'w fuddsoddi dros dair blynedd. Y mis hwn, bydd y gronfa yn agor i ddatganiadau o ddiddordeb, gyda'r bwriad o weld y prosiectau llwyddiannus yn cychwyn darparu ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf. Ar 1 Hydref, cyhoeddwyd cynllun peilot presgripsiynu cymdeithasol iechyd meddwl. Dyfarnwyd cyfanswm o £1.351 miliwn i Mind Cymru a'r Groes Goch Brydeinig—rwy'n credu ei fod yn dweud hynny; mae'n ddrwg gennyf, Llywydd, nid yw fy ngolwg yn dda iawn, a does dim sbectol gyda mi yma, ond mae'n swm mawr o filiynau o bunnoedd—i gyflawni prosiectau ar draws Cymru. [Chwerthin.] Gallai'r mathau o ymyriadau gynnwys darparu gweithgareddau lles wedi lleoli yn y gymuned, megis grwpiau cerdded, celf a chrefft, ac ati.
Rwy'n cymeradwyo’r Aelod am ei diddordeb mewn chwaraeon. Rwy'n falch o ddweud bod ein rhagolygon chwaraeon wedi gwella ychydig yn Abertawe hefyd. Gwn fy hun fod hyd yn oed gwylio'n unig yn ddigon i gael effaith fuddiol ar iechyd meddwl. Felly, cymeradwyaf yr Aelod am ei diddordeb yn y gweithgaredd.
Arweinydd y tŷ, hoffwn ofyn am ddau ddatganiad heddiw. Yn gyntaf, byddwn yn croesawu diweddariad gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â'r trafodaethau ar wahardd gwerthu cŵn a chathod gan drydydd parti. Mae llawer o dystiolaeth a'r farn gyhoeddus o blaid cyflwyno cyfraith Lucy, fel y'i gelwir, o ganlyniad i bryderon am iechyd a lles. Gyda'r newidiadau arfaethedig i gyflwyno gwaharddiad rhannol yn Lloegr, dyma gyfle i ni achub y blaen ar hyn a chyflwyno cyfraith drugarog wirioneddol drwyadl a fyddai'n cael gwared ar werthu gan drydydd parti yn gyfan gwbl.
Yn ail, hoffwn gofnodi fy llongyfarchiadau i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru am ddal eu gafael ar deitl pencampwyr her achub y DU yn ystod Her Sefydliadau Achub y DU 2018, a gynhaliwyd yn Roald Dahl Plass dros y penwythnos diwethaf. Ces i a fy nghyd-Aelod Jenny Rathbone y pleser o'u gwylio'n paratoi ychydig wythnosau yn ôl, yn ystod egwyl yr haf, ac roedd yn dipyn o beth. Rwy'n siŵr eich bod yn awyddus i ymuno â mi wrth ddymuno'n dda iddynt oll yn ystod her y byd ymhen ychydig wythnosau. Mae'r heriau y mae staff tân ac achub yn eu hwynebu i sicrhau diogelwch a lles y cyhoedd yn newid trwy'r amser. Felly, a fydd cyfle i gael dadl yn amser y Llywodraeth ar sut y gallwn sicrhau eu bod yn derbyn y cymorth angenrheidiol i barhau gyda'u gwaith rhagorol?
Do, ces y fraint o gael sgwrs sydyn gyda rhai o'r personél a fu'n gosod yr arddangosfa yr wythnos diwethaf. Ces gyfle i gael fy achub o gerbyd, ond yn anffodus nid oedd fy nyddiadur yn caniatáu imi wneud hynny. Roeddwn yn siomedig braidd, ond ta waeth —. [Chwerthin.] Byddwn wrth fy modd yn dymuno'n dda iddynt yn ystod her y byd ymhen ychydig wythnosau. Dyma ffordd hwyliog o arddangos rhagoriaeth y gwasanaeth yn ogystal â rhai o'r heriau y maent yn eu hwynebu. Rwy'n hapus iawn i'w llongyfarch am gynnal digwyddiad mor fawreddog ac i dalu teyrnged i bawb a fu'n rhan o'r digwyddiad. Cafwyd perfformiad gwych gan Dde Cymru, fel y dywedodd Vikki Howells. Enillwyd y gwobrau cyffredinol am ryddhau cleifion ac am achub â rhaffau, a dod yn drydydd wrth achub mewn dŵr—y perfformiad gorau o bell ffordd. Hoffwn ddymuno'r gorau iddynt yn ystod yr her byd sydd ar y gweill yn Ne Affrica.
Yn wahanol i sefydliadau sector cyhoeddus eraill, yma yng Nghymru maent yn gosod eu cyllidebau eu hunain. Maen nhw'n unigryw yn hynny o beth. Nid ydym yn rheoli'r nawdd yn uniongyrchol, nac ychwaith yn rheoli lefel y nawdd y maent yn ei gasglu gan yr awdurdodau lleol cyfansoddol. Ond maent yn gwneud gwaith gwych, ac rwy'n credu, yn wirioneddol, fod hon yn ffordd ardderchog o arddangos, a chaniatáu i bersonél y Gwasanaeth Tân ac Achub arddangos, pa mor arbennig ydynt. Nid rhagoriaeth mewn cystadleuaeth yn unig mo hyn, ond dyma ragoriaeth wirioneddol ar ochr y ffordd, pan fyddant yn helpu pobl, ac mae eu cyflymder wrth berfformio yn achub bywydau. Felly, rwy'n hapus iawn, iawn i'w cymeradwyo.
O ran y rheoliadau lles anifeiliaid a godwyd gan Vikki Howells, gwnaed datganiad llafar gan Ysgrifennydd y Cabinet yn ôl ym mis Mehefin, ac mae wedi ymrwymo i ymchwilio i werthwyr trydydd parti yng Nghymru. Mae'r gwaith gyda rhanddeiliaid i gasglu gwybodaeth am y materion yn parhau, a byddwn yn edrych ar yr opsiynau ar gyfer bwrw ymlaen yn y man. Ond mae'n werth cofio ein bod eisoes wedi cyflwyno nifer o fesurau lles anifeiliaid ymhell cyn Lloegr, gan gynnwys Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) Cymru 2014, Rheoliadau Microsglodynnu Cŵn (Cymru) 2015, a Rheoliadau Lles Anifeiliaid (coleri electronig) (Cymru) 2010, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gweithio'n galed gyda'r rhanddeiliaid i weld sut y gallwn ychwanegu at hynny.
Hoffwn ddatganiad ynglŷn â phryd oedd Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o ddamweiniau ym mhyllau oeri Hinkley Point A, a oedd yn ymwneud â phlwtoniwm gradd arfau, yn y 1960au. Ers pryd y mae'r Llywodraeth yn ymwybodol o hyn?
Credaf fod angen i'r Aelod ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet er mwyn cael ateb i hynny.
Diolch i arweinydd y tŷ.