Part of the debate – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 2 Hydref 2018.
A oes modd derbyn datganiad am y sefyllfa efo addysg feddygol ym Mangor—diweddariad, hynny yw? Mae etholwyr yn cysylltu â mi yn gofyn a oes modd gwneud cais eleni ar gyfer astudio'r cwrs israddedig mewn meddygaeth ym Mhrifysgol Bangor o 2019 ymlaen. Mae hyn, wrth gwrs, yng ngoleuni'r cyhoeddiad yn gynharach eleni ynglŷn â'r bartneriaeth rhwng prifysgolion Bangor a Chaerdydd i ddarparu addysg feddygol. Mae yna nifer o fyfyrwyr lleol yn awyddus iawn i wybod a fyddan nhw yn gallu ymgymryd â rhan o'u hyfforddiant ym Mangor yn 2019. Nid ydy hynny'n glir ar hyn o bryd, er mai dyna oedd yr addewid. Felly, byddai datganiad i'r perwyl hwnnw, i glirio hynny i fyny, yn ddefnyddiol iawn. Diolch yn fawr.
Ac a gaf fi ofyn hefyd am ddatganiad, neu wybodaeth, gan y Llywodraeth am bolisi cynllunio Cymru? Pryd fyddwch chi'n debygol o gyhoeddi hwn? A hefyd, a gawn ni ddiweddariad am nodyn technegol 20 am yr iaith Gymraeg? Fe soniwyd dros yr haf y gallai'r Llywodraeth yma fod yn wynebu her gyfreithiol ynglŷn â'r canllaw yma. A oes yna newid barn wedi bod gan y Llywodraeth am TAN 20?
Ac yn olaf, ychydig fisoedd yn ôl, fe ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ei bod hi'n barod i adolygu'r angen am arolygaeth gynllunio ar wahân i Gymru, ac y byddem yn trafod hyn ymhellach. A gawn ni ddatganiad, felly, am safbwynt y Llywodraeth ynglŷn â chreu arolygaeth gynllunio i Gymru, os gwelwch yn dda? Diolch.