Part of the debate – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 2 Hydref 2018.
Ie. Rwy'n credu bod problem wirioneddol yma ynghylch y swm o arian sydd ar gael i Lywodraeth Cymru i dalu'r telerau ac amodau yr hoffem eu talu. Fodd bynnag, mae'r Llywodraeth hon, wrth gwrs, wedi sicrhau cydraddoldeb ar gyfer darlithwyr addysg bellach ac athrawon, a gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi amlygu'r pwynt hwnnw yn glir ar sawl achlysur yn y Siambr hon. Nid wyf yn credu y dylai orfod gwneud hynny eto mewn datganiad.