Part of the debate – Senedd Cymru am 3:10 pm ar 2 Hydref 2018.
Hoffwn i ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei ddatganiad heddiw. Dyma'r wythfed gyllideb yn olynol sydd yn cael ei phennu yn y lle hwn yn wyneb polisi llymdra Llywodraeth San Steffan, ac mae'n bwysig cadw hynny mewn cof wrth i ni ddechrau ar y gwaith o graffu. Mae cymdeithas a lles pobl yn dioddef yn enfawr oherwydd penderfyniad cwbl ddiangen a chalon-galed y Torïaid yn Llundain i barhau â thoriadau i wariant cyhoeddus, er bod pob darn o dystiolaeth yn dangos yn glir bod y polisi'n methu hyd yn oed wrth ei fesur gyda'i resymeg troedig ei hun. Nid yw'r economi'n tyfu ar yr un raddfa â gwledydd datblygedig eraill oherwydd nid yw arian yn cael ei fuddsoddi. Yr oll rydym yn ei gael yw toriadau ar ôl toriadau am resymau ideolegol yn hytrach na pholisi wedi'i selio ar synnwyr cyffredin economaidd, ac mae'r sefyllfa ond am waethygu. Mae hyd yn oed Nick Ramsay wedi sôn am y stormydd a'r ansicrwydd sydd i ddod, ac, wrth gwrs, mae hynny wedi bod yn amlwg ers y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd yn 2016. Wrth gwrs, nid oes gan yr wrthblaid yn San Steffan ddim yr atebion sydd eu hangen chwaith. Nid ydym ni'n mynd i greu iwtopia sosialaidd ar yr ynysoedd yma drwy adael y farchnad sengl Ewropeaidd a'r undeb tollau. Wrth gwrs, beth sydd angen i ni ei wneud fel cenedl yw defnyddio'r arfau sydd gyda ni ac i fynnu mwy o arfau economaidd er mwyn tyfu ein heconomi ein hunain, ac, yn y pen draw, Llywydd, adeiladu cenedl annibynnol er mwyn rhoi terfyn ar reolaeth Dorïaidd dros ein gwlad ni am byth.
Felly, dyna’r cefndir i’r gyllideb hon. Wrth gwrs, hon yw ail flwyddyn y cytundeb cyllideb gwerth bron i £0.25 biliwn dros ddwy flynedd rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru, ac rydym yn falch iawn o weld bod rhai o’r mesurau yn rhoi hwb i sectorau pwysig yn barod. Am y tro cyntaf erioed, bydd myfyrwyr meddygol yn gallu gwneud cais i astudio rhan o’u gradd yn y gogledd—£7 miliwn yn refeniw. Bydd hyn yn hwb i fyfyrwyr o Gymru sydd eisiau cymhwyso yno ac yn gam pwysig tuag at wella'r sefyllfa o ran diffyg meddygon, sydd yn arwain at amseroedd aros hir, diffyg gwasanaethau lleol, ac yn rhoi straen ar y gweithwyr NHS sy’n gorfod llenwi’r bylchau.
Roeddwn yn falch o weld y Brexit portal yn cael ei lansio’r wythnos diwethaf—ar ôl peth oedi, mae’n rhaid i mi nodi. Bydd hwn yn adnodd gwerthfawr i fusnesau Cymreig o ran eu helpu nhw i baratoi at ymadawiad y Deyrnas Gyfunol â’r Undeb Ewropeaidd. Mae meysydd eraill sy’n elwa o’r cytundeb yn cynnwys iechyd meddwl, sydd, wrth gwrs, yn flaenoriaeth i Blaid Cymru—£40 miliwn dros y ddwy flynedd—addysg uwch a phellach, £40 miliwn; yr iaith Gymraeg, £10 miliwn; a’r sector celfyddydau, £4.4 miliwn. O ran gwariant cyfalaf, mae’r gwaith yn mynd rhagddo ar y ganolfan iechyd integredig yn Aberteifi, ac rwy’n edrych ymlaen at fynd i weld y safle pan fydd cynhadledd Plaid Cymru yn cael ei chynnal yn y dref y penwythnos hwn. Yn ogystal, mae gwaith yn cael ei wneud i wella’r briffordd rhwng y de a’r gogledd, ac mae astudiaethau dichonoldeb ar brosiectau eraill ar y ffordd, fel sydd wedi cael ei nodi gan yr Ysgrifennydd Cabinet y prynhawn yma.
Wrth gwrs, nid ydym ni, ar y meinciau yma, yn cytuno â phopeth sydd yn y gyllideb, sef pam, wrth gwrs, y byddwn ni'n ymatal ar y bleidlais. Y gwir yw bod angen mesurau pellgyrhaeddol er mwyn mynd i’r afael â’r segurdod economaidd y mae ein gwlad wedi bod ynddo am ddegawdau, yn hytrach na phapuro dros y craciau. Rydym ni yn arddel sefydlu comisiwn isadeiledd gyda phwerau i godi arian sylweddol er mwyn buddsoddi yn ein hisadeiledd er mwyn sbarduno twf a chreu gwaith. Rwy’n falch o allu croesawu'r cyhoeddiad heddiw bod arian y grant early intervention, prevention and support yn cael ei warchod, yn ogystal â’r sicrwydd bod camau’n cael eu cymryd i atal sectorau penodol rhag colli mas. Mae Plaid Cymru yn falch ein bod wedi diogelu cyllid Supporting People fel rhan o hyn. Ond mae’n rhaid i mi ddweud fy mod i wedi siomi i glywed eich bod yn bwrw ymlaen gyda'r newidiadau i'r cynllun cinio am ddim i blant. Rwy'n derbyn y bydd nifer uwch yn gymwys, ond mae'n destun pryder mawr bod rhai teuluoedd yn wynebu colli'r hawl i ginio am ddim. A allaf i ofyn i'r Llywodraeth edrych eto ar hyn a newid y cynlluniau, yn enwedig os oes newyddion da i ddod o gyllideb Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn y dyfodol?
Hoffwn i orffen trwy ofyn ambell i gwestiwn i'r Ysgrifennydd Cabinet. Yn gyntaf, rwy'n llongyfarch awdurdod refeniw Cymru ar ei lwyddiant yn codi mwy o arian o ran landfill disposal tax nag oedd y rhagolygon yn awgrymu. A gaf i ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau bod yr arian yma'n aros yng Nghymru ac nad yw'r Trysorlys yn ceisio ei gymryd nôl i Lundain? Rhan bwysig o gyfrifoldeb trethiant yw bod y Llywodraeth yn cael y budd o lwyddiant, felly, byddai'n warthus pe bai Trysorlys y Deyrnas Gyfunol yn awr yn ceisio cosbi Cymru am ei llwyddiant ei hunan—nid eu harian nhw yw e, wedi'r cyfan.
Yn ail, a yw'r Ysgrifennydd Cabinet yn gallu rhoi manylion ynglŷn â beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru o ran buddsoddi'r arian maen nhw'n ei gael ar ffurf financial transactions? A ydych chi wedi ystyried a allai'r arian hwn, sydd angen cael ei fuddsoddi mewn mentrau sy'n rhoi elw ar fuddsoddiad, gael ei ddefnyddio er mwyn bwrw ymlaen gyda morlyn llanw yn Abertawe, er enghraifft, a phrojectau o'r fath? Rwy'n falch hefyd i weld, erbyn hyn, fod Llywodraeth Cymru wedi cynyddu tâl ar gyfer doctoriaid a nyrsys—rhywbeth y mae Plaid Cymru wedi bod yn galw amdano ers tro byd—ond, a all yr Ysgrifennydd Cabinet ddweud a oes cynlluniau i godi tâl i weithwyr eraill yn y sector gyhoeddus? Mae etholwyr wedi bod yn cysylltu â fi, ac rwy'n siŵr gydag Aelodau eraill, er enghraifft, i ddweud bod y sefyllfa yn y sector addysg bellach yn argyfyngus yn dilyn degawd o gynnydd tâl islaw chwyddiant, a bod hyn yn effeithio ar safon byw'r unigolion sydd yn gweithio yn y sector yna.
Hefyd, mae pryder mawr am yr effaith y caiff unrhyw doriadau i lywodraeth leol ar wasanaethau anstatudol. Mae’r gwasanaethau hyn yn cynnwys canolfannau hamdden a chlybiau cymunedol sydd â rhan bwysig i’w chwarae yn cadw pobl yn iach ac atal problemau iechyd. Sut mae toriadau fel hyn yn cyd-fynd ag amcanion y Llywodraeth o ran ceisio atal problemau iechyd cyn iddyn nhw godi yn y lle cyntaf? Rydym ni’n gwario mwy a mwy ar drin anhwylderau iechyd ond llai a llai ar atal y problemau hyn rhag codi yn y lle cyntaf. Hoffwn i glywed sylwadau'r Ysgrifennydd Cabinet ar y mater hwn.
I orffen, rwy'n croesawu'r bwriad i dynnu ymadawyr gofal allan o'r system dreth gyngor hyd at 25 mlwydd oed ar hyd a lled Cymru. A fydd angen newidiadau statudol cyfreithiol i wneud hyn, neu a fydd hyn yn rhywbeth a all gael ei wneud yn o fuan? Hefyd, rwy'n croesawu'r datganiad ynglŷn â statws elusennol trethol ysgolion preifat ac ysbytai preifat. Eto, a fydd angen newidiadau cyfreithiol i sicrhau bod y polisi yna'n cael ei wireddu neu a ydy'r Ysgrifennydd Cabinet yn gweld hyn yn rhywbeth a all gael ei weithredu'n weddol fuan? Diolch yn fawr iawn.