Part of the debate – Senedd Cymru am 3:20 pm ar 2 Hydref 2018.
Credaf hefyd fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwneud gwaith da o ran ymdopi â'r gostyngiad o 1 y cant, sef y gostyngiad arian parod, yn y grant cynnal refeniw i 2019-20, a llwyddo i leihau'r bwlch gan £28 miliwn i ddim ond £15 miliwn. Mae'r £15 miliwn sy'n weddill yn amlwg yn mynd i arwain at broblemau i ymdrin â nhw, ond, serch hynny, rwy'n credu bod gallu Ysgrifennydd y Cabinet i geisio sgwario'r cylch y mae'n rhaid iddo ei wynebu yn cynhyrchu'r enillion hynny.
Rwy'n cymeradwyo'n gryf hefyd rai o'r elfennau eraill y cyfeiriodd atyn nhw yn ei ddatganiad, yn arbennig, yr agenda tlodi plant a'r cynnydd yn nifer y plant ysgol sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Ac rwyf hefyd yn cefnogi ei benderfyniad ar y grant ymyrraeth gynnar, atal a chymorth i gynyddu'r swm a delir a hefyd i'w rannu'n ddau, oherwydd bu cyfnod anesmwyth iawn, yn ddi-os, i'r rhai hynny sy'n credu, ar ôl symud o ryw fath o gyllideb sydd wedi'i neilltuo i un lle caiff y grantiau gwahanol hyn eu trin gyda'i gilydd, y gallai rhai pobl fod ar eu colled a chael llai nag y byddent wedi ei gael fel arall. Felly, rwy'n credu bod hwnnw'n symudiad doeth i arafu'r broses o newid, a bydd croeso cynnes i hynny, rwy'n credu, ledled Cymru.
Gallwn hefyd, wrth gwrs, groesawu'r cynnydd mewn gwariant ar iechyd. Mae'n ffaith fod pawb yn ymwybodol bod chwyddiant iechyd yn uwch na chwyddiant yn genedlaethol, a bod anghenion y boblogaeth yn mynd i gynyddu gyda phoblogaeth sy'n heneiddio a llai o bobl mewn gwaith egnïol. Felly, mae cost ariannu hyn yn mynd i fod yn broblem gynyddol yn y blynyddoedd i ddod. Mae hynny'n rhannol, mae'n debyg, yn sgil y symiau cynyddol sydd ar gael oherwydd penderfyniad Llywodraeth y DU i gynyddu faint o arian a warir ar y gwasanaeth iechyd drwy ei chronfa pen-blwydd deg a thrigain, ond nid wyf i'n credu y dylem ni eu canmol nhw'n ormodol ar eu llwyddiant, oherwydd yn y flwyddyn ariannol gyfredol, dim ond gan 3.6 y cant y mae Llywodraeth y DU yn mynd i gynyddu'r gwariant, sy'n 0.1 y cant yn llai na'r cynnydd cyfartalog mewn gwariant ar iechyd ers 1948. Felly, mewn gwirionedd, mae'n fwy o aros yn yr unfan yn hytrach na'i fod yn fonws annisgwyl ar ben popeth arall. Dywedodd yr Ysgrifennydd dros iechyd bod y Prif Grŵp Gwariant ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol bellach yn £8.2 biliwn ar gyfer 2019-20, felly mae iechyd yn dod yn rhan fwy fyth o gyllideb Llywodraeth Cymru. Mae'r £330 miliwn ychwanegol ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, wrth gwrs, i'w groesawu'n fawr—er, fel y dywedodd yn gywir, mae'r hyn a roddir ag un llaw yn rhannol yn cael ei gymryd gan y llall ac mae tua hanner y gyllideb eisoes wedi'i glustnodi gan Lywodraeth y DU.
Ond yr hyn nad ydym ni'n ei drafod yn y fan yma yw, nid yn gymaint y cyllid sydd ar gael, ond anallu parhaus llawer o fyrddau iechyd i allu rheoli eu cyllidebau eu hunain yn briodol, ac rydym wedi gweld, eleni, bod diffyg parhaus o £360 miliwn, sydd wedi cynyddu o £253 miliwn yn y flwyddyn flaenorol. Nid yw Hywel Dda a Betsi Cadwaladr yn enwedig, ddim mewn gwirionedd yn gwella i'r graddau y byddem yn ei ddisgwyl. Mae'r symiau o arian sydd dan sylw yn y fan yma, wrth gwrs, yn enfawr: Hywel Dda, £70 miliwn mewn diffyg hyd at ddechrau mis Ebrill eleni, a Betsi Cadwaladr wedi cynyddu o £30 miliwn i £36 miliwn. Felly, yn erbyn y cefndir hwn, mae gan Ysgrifennydd y Cabinet dasg anodd iawn, rwy'n credu, wrth geisio mantoli'r cyfrifon.
Nid yw'r gyllideb amgylcheddol eleni wedi dioddef y toriadau a wnaeth y llynedd. Mae hynny i'w groesawu. Er bod hanner y cynnydd o £34 miliwn, sef £17 miliwn ohono, yn mynd i gael ei wario ar wahanol brosiectau gwastraff, na fyddai'n flaenoriaeth i mi, oherwydd—ac nid oes a wnelo hyn â'r mater cynhesu byd-eang ei hun—ni allaf weld y pwynt o wario £17 miliwn ar ddidoli gwastraff a gallu tynnu'r plastig o gwpanau Costa Coffee, er enghraifft, pan fo'r DU yn cyfrif am ddim ond tua 2 y cant o allyriadau carbon deuocsid, hyd yn oed os ydym ni'n derbyn y cysylltiad rhwng allyriadau carbon deuocsid a chynhesu byd-eang. Mae pump ar hugain y cant o'r holl wastraff plastig sy'n cael ei gasglu yn yr UE yn cael ei allforio i'r dwyrain pell a lleoedd eraill lle mae eu mesurau rheoli yn llawer mwy israddol na'r hyn sydd gennym ni yn y wlad hon ac, yn wir, yn Ewrop yn gyffredinol. Felly, yr hyn yr ydym ni'n ei wneud mewn gwirionedd yw gwneud y broblem yn waeth drwy gasglu'r holl ddeunydd hwn ac yna ei allforio i wledydd sy'n ei daflu i afonydd a safleoedd tirlenwi mewn mannau eraill. Felly, nid ydym ni mewn gwirionedd yn cyfrannu at ateb y broblem, hyd yn oed os ydych chi'n derbyn bod problem yn y lle cyntaf. Felly, yn sicr, ni fyddai hynny yn flaenoriaeth i mi.
Ond y mantra yn y cefndir, wrth gwrs, fel bob amser, yw cyni. Ond, rwy'n credu y dylem ni atgoffa ein hunain bod hwn yn gyfnod o gyni—y mae datganiad Ysgrifennydd y Cabinet ei hun mewn gwirionedd yn nodi'r anwiredd, oherwydd mae'n cyfeirio at anallu'r Canghellor i gyrraedd ei dargedau i leihau'r diffyg ar sail gyfresol. Yn 2007-08, roedd y ddyled genedlaethol oddeutu £780 biliwn. Y bore yma, am 10.15 a.m., edrychais ar y cloc dyled cenedlaethol, ac roedd yn £2 triliwn neu fwy. Felly, prin y gallwch chi ddisgrifio hwn fel cyfnod o gyni pan fo'r Llywodraeth wedi bod â diffygion mwy nag erioed o'r blaen. Mae arnaf ofn ei bod yn realiti bywyd os nad ydych yn byw o fewn eich modd, yna'n sydyn mae'r arian yn dod i ben, a dyna'r broblem gyda Llywodraethau sosialaidd bob amser, wrth gwrs—nid oes ganddynt ddigon o arian pobl eraill i'w wario.
Mae'r Blaid Lafur o dan ei harweinyddiaeth bresennol wedi bod yn edmygydd mawr o'r Arlywydd Chávez ac Arlywydd Maduro yn Venezuela. Wel, mae gan Venezuela eleni chwyddiant o 1 miliwn y cant ac maen nhw bellach, yn hytrach nag allforio olew, yn allforio pobl. Felly, mae'r syniad y gallwch chi barhau i wario fel pe na fyddai yfory, am byth, wrth gwrs, yn erbyn rheolau natur a realiti. Pe na fyddem ni wedi ein cyfyngu yn y modd yr ydym ni yn ariannol yng Nghymru, fel pe byddai John McDonnell, Duw â'n gwaredo, yn dod yn Ganghellor y Trysorlys yn y Deyrnas Unedig ar unrhyw adeg, y byddai mewn gwirionedd yn gallu dilyn esiampl Venezuela, yna, rwy'n credu y byddai Llywodraeth Cymru mewn picil gwirioneddol. Yna bydden nhw'n darganfod beth yw gwir ystyr cyni.
Yn y pen draw, dros gyfnod o amser, mae'n rhaid i chi fantoli'r cyfrifon ac, mewn ffordd annigonol ac mewn ffordd gyfyngedig, dyna beth y mae'r Llywodraeth Geidwadol wedi bod yn ceisio ei wneud. Pe byddai'r Llywodraeth wedi benthyg hyd yn oed mwy o arian, yna byddai baich y ddyled a'r baich cyllido wedi bod hyd yn oed yn fwy. Eleni, mae dros £50 biliwn yn mynd i gael ei wario mewn llog ar ddyledion, ac er bod Banc Lloegr wedi prynu rhan sylweddol o ddyled y Llywodraeth—felly, ar un ystyr, mae'n talu arian iddo'i hun—rydym ni'n dal i siarad am ryw £4 biliwn a allai gael ei wario ar wasanaethau rheng flaen sy'n mynd fel llog ar ddyled i drydydd partïon. Felly, yn y pen draw, fel y dywedaf, nid oes gennych chi arian ar ôl.
A, maes o law, bydd gan Lywodraeth Cymru y rhyddid a'r disgresiwn i ddefnyddio'r pwerau trethi datganoledig sydd ganddi. Rwy'n gobeithio y bydd yn defnyddio'r rheini nid yn unig i gynyddu'r baich trethi, ond mewn gwirionedd i geisio gweddnewid economi Cymru yn economi fenter drwy ostwng trethi ac felly annog buddsoddiad, annog menter, annog pobl i ddod i fyw a gweithio yng Nghymru fel y gallwn ni—yr hyn yr ydym ni i gyd yn gwybod y dylem ni ei wneud—godi sylfaen y dreth drwy gynyddu faint o gyfoeth a grëir yn economi Cymru yn gyffredinol. Felly, mae'n ddewis y bydd yn rhaid inni ei wneud maes o law. Mae wedi'i ohirio nawr tan y Cynulliad nesaf. Ond, fel Nick Ramsay, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru, os yw hi'n mynd i baratoi ar gyfer bod mewn Llywodraeth ymhen ychydig o flynyddoedd, mewn gwirionedd yn newid ei hagwedd at economi fenter ac yn sylweddoli, yn y pen draw, bod cyfoeth sy'n cael ei greu yn cael ei greu gan bobl, nid gan Lywodraeth. Mae llywodraethau yn gwario arian, ond nid ydyn nhw'n gallu ei wario os nad yw'n cael ei greu.