Part of the debate – Senedd Cymru am 3:29 pm ar 2 Hydref 2018.
Hoffwn groesawu cyllideb ddrafft Ysgrifennydd y Cabinet heddiw, sydd wedi'i chynllunio i gynnal ffabrig bywyd Cymru, ac rwy'n croesawu ymrwymiad clir Ysgrifennydd y Cabinet i gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus a chwmpasu'r pwerau a'r cyfrifoldebau newydd am drethi. Ym Mhwyllgor Cyllid y Cynulliad yr wythnos diwethaf, cawsom sesiwn friffio gan Drysorlys Cymru a Chyllid a Thollau EM am y cyfraddau newydd ar gyfer treth incwm yng Nghymru a ddaw i rym fis Ebrill nesaf. Rwy'n cefnogi eich cynigion ar gyfer trethi datganoledig gyda'r gyllideb ddrafft hon, ac rwy'n nodi, fel y gwnes i yn gynharach eleni, eich bod wedi sicrhau mai'r dreth trafodiadau tir yw'r dreth fwyaf blaengar yn y DU, a chroesawaf hynny'n fawr iawn. Ac rwy'n siŵr y byddwch yn cydnabod ac yn cytuno, fel yr wyf i, ag adroddiad diweddar yr IPPR Commission on Economic Justice, ac yn cefnogi ei argymhellion am dreth, a'r angen i ledaenu cyfoeth a pherchnogaeth ar draws ein heconomi.
Credaf ei bod yn bwysig cydnabod, ar ôl wyth mlynedd a hanner o gyni diangen a niweidiol a thoriadau dwfn yn ein gwasanaethau cyhoeddus, eich bod wedi dangos yn glir sut yr ydych wedi defnyddio ein cyllideb i helpu i wneud Cymru yn lle tecach. O ganlyniad, rydych wedi rhoi pecyn eang o fuddsoddiad cyhoeddus mewn iechyd, gofal cymdeithasol, tai a thrafnidiaeth. Ond ni ellid fod wedi gwneud hyn oni bai eich bod wedi sicrhau £90 miliwn o ganlyniad i'r fframwaith cyllidol, a negodwyd gennych, a'r defnydd o £125 miliwn o gronfeydd wrth gefn Cymru. Ac mae hwnnw'n benderfyniad y mae'n rhaid ichi ei wneud, gan ddangos eich bod yn bendant yn eich bwriad i ariannu'r gwasanaethau cyhoeddus allweddol hynny ar lawr gwlad yng Nghymru, sydd mor bwysig i ni, ac sy'n ofynnol i bobl Cymru.
Rwy'n croesawu'r cynnydd o £0.5 biliwn i GIG Cymru, sy'n ailddatgan eich polisi i gefnogi iechyd a gofal cymdeithasol, sydd o fudd i lywodraeth leol, gan gynnwys y £50 miliwn ar gyfer gofal cymdeithasol. A byddwn i ond yn dweud ac yn cwestiynu a yw hynny'n dangos bod Llywodraeth Cymru yn dal i ariannu llawer gormod o'i gymharu â'r cyllid ar gyfer gofal cymdeithasol yn Lloegr, yn enwedig wrth integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol.
O ran cyfalaf, croesawaf y £35 miliwn ar gyfer y grant tai cymdeithasol, sy'n dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gennym dai cymdeithasol a fforddiadwy ar gyfer pobl sydd angen tai. Ond hoffwn egluro'r dyraniad o ddyraniadau trafodiadau ariannol, oherwydd, yn gynharach eleni, croesawais gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer undebau credyd, yn dilyn y diweddariad yn ddiweddar i gyhoeddiadau cynllun seilwaith Cymru. Rydym eisoes wedi gweld y manteision o ddefnyddio cyfalaf trafodiadau ariannol yn y modd hwn, gan hybu cyfiawnder cymdeithasol, cefnogi ein hundebau credyd, eu helpu i fodloni'r gofynion cymhareb asedau cyfalaf heriol, i ategu dichonoldeb undebau credyd yng Nghymru. Ac rwy'n gobeithio y bydd hyn yn parhau.
Hoffwn hefyd godi'r mater o effaith Brexit ar eich cyllideb eleni. Mae ymchwil annibynnol bellach yn dweud bod bil Brexit yn £500 miliwn yr wythnos, ac yn cynyddu, ac mae eich datganiad chi wedi amlygu dadansoddiad y prif economegydd, a oedd yn dangos effaith Brexit ar bobl ac aelwydydd yng Nghymru. A allwch chi gadarnhau bod yn rhaid inni ddefnyddio dyraniadau o'n cyllideb gyfyngedig i dalu am gostau Brexit i'n pwrs cyhoeddus? Ar gyfer cronfa pontio'r Undeb Ewropeaidd o £50 miliwn, a chost ymgysylltiad Llywodraeth Cymru, ar bob lefel—gwleidyddol, a swyddogol—beth yw effaith Brexit ar y rheini i gyd yr ydym yn eu cefnogi a'u gwasanaethu yng Nghymru, gan dynnu sylw at yr effaith negyddol ar y broses o lunio eich cyllideb a'ch cyfrifoldebau?
Rwyf eisiau cloi gyda chwestiwn am bwerau ehangach. Rydych wedi croesawu eich pwerau newydd, fel yr amlinellwyd heddiw. Mae gennym fframwaith cyllidol—yr ydych chi wedi'i negodi, rydych chi wedi rheoli adnoddau, refeniw a chyfalaf, mewn modd y byddai Nye Bevan wedi'i groesawu o ran y ffordd yr ydych yn cydnabod blaenoriaethau ac anghenion, fel dilysnod sosialaeth, a'r ffaith eich bod wedi llwyddo i wneud hynny yn erbyn cefndir o wyth mlynedd a hanner o'r gyllideb goll honno o £4 biliwn a allai fod yn mynd i'n gwasanaethau cyhoeddus. Ond, yn olaf, hoffwn pe gallech roi'r wybodaeth ddiweddaraf imi ar y trafodaethau ar y pwerau y mae eu hangen arnom i gefnogi ein heconomi, ac a gefnogir yn drawsbleidiol drwy Gomisiwn Silk, ac yn wir bellach y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig, gan ystyried tollau teithwyr awyr, a ddylai gael eu datganoli i Gymru, sydd wedi eu datganoli i'r Alban ac sydd wedi'u datganoli i Ogledd Iwerddon. Beth yw'r cynnydd, Ysgrifennydd y Cabinet, o ran y trafodaethau hynny? Diolch.