Part of the debate – Senedd Cymru am 4:10 pm ar 2 Hydref 2018.
Yn fyr iawn, Llywydd, os yw'n iawn gennych—mae gennyf funud i ymateb i ychydig o bwyntiau wedi eu dethol o'r hyn y mae Aelodau eraill wedi codi. Yn yr hyn a ddywedodd Jenny Rathbone, gadewch i mi ganolbwyntio ar yr hyn a ddywedodd am deithio llesol. Rydym ni wedi cyhoeddi £60 miliwn yn gynharach yn y flwyddyn, £10 miliwn eleni, £20 miliwn y flwyddyn nesaf, a £30 miliwn y flwyddyn wedyn, yn uniongyrchol ar gyfer teithio llesol. Ond bydd y gronfa drafnidiaeth leol o £78 miliwn a'r £60 miliwn ar gyfer atgyweirio ffyrdd, yn ogystal â'r hyn yr ydym ni'n ei wneud ynglŷn ag aer glân a'r arian yr ydym ni'n ei ddarparu i awdurdodau lleol mewn cyfalaf a refeniw i wella traffig yn y ffordd honno—bydd pob un ohonyn nhw, rwy'n credu, yn cyfrannu at ein hagenda teithio llesol.
Soniodd Mark Isherwood wrthym ni am Maynard Keynes ac, wrth gwrs, mae Keynes yn ffordd gwrth-gylchol o ddelio gyda'r economi, nid fel y cyflawnodd Canghellor y Trysorlys, George Osborne, ei gyfrifoldebau. Mae wastad wedi ymddangos i mi fel meddyg canoloesol, mewn gwirionedd: roeddech yn arfer gwaedu'r claf a, pan fyddai'r claf yn dangos hyd yn oed mwy o arwyddion salwch, yr unig ateb oedd gwaedu'r claf ychydig mwy. Dyna'r gwrthwyneb yn llwyr i economeg Keynes. Rwy'n siŵr ei bod hi'n teimlo i rai Aelodau y bûm i'n sefyll yn y fan yma ers mwy na degawd, ond mae cwestiynau Mr Isherwood o ran sut yr ymatebais i rywbeth a ddywedwyd yn 2004—. Gweinidog cyllid ymhell y tu hwnt i fy nghyfnod fy hun a oedd yn gyfrifol am hynny. Fodd bynnag, rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd am gyd-gynhyrchu; mae llawer eto i'w wneud, ac mae'r cyfrifoldeb ar ein gwasanaethau cyhoeddus i ddefnyddio'r cyfalaf dynol a ddaw o ddefnyddwyr gwasanaethau, ochr yn ochr â'r cyfalaf ariannol sydd ganddyn nhw, i wneud gwahaniaeth go iawn.
Gofynnodd Mike Hedges gyfres o gwestiynau penodol imi. Mae'r Trysorlys wedi newid y rheolau yng nghyswllt cyfalaf trafodion ariannol yn Lloegr. Ni allan nhw, hyd yn hyn, ddweud wrthym ni sut mae'r rheolau diwygiedig hynny yn berthnasol i Gymru. Rwyf wedi ysgrifennu at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys yn gofyn am ymestyn ein cyfanswm benthyca yn yr adolygiad cynhwysfawr o wariant sydd ar y gweill, ac rydym ni ar ein ffordd, bellach, i gael pwerau cyhoeddi bondiau yma yng Nghymru.
Daw cwestiynau Suzy Davies am addysg, ac addysg cyfrwng Cymraeg, yn fwy amlwg yn ail ran y gyllideb, ond gallaf ddweud wrthi fod £15 miliwn ymysg yr agweddau addysg, mewn grant penodol newydd a roddir yn uniongyrchol i ysgolion o gyllideb fy nghyd-Aelod Kirsty Williams, ynghyd â £9 miliwn i fynd tuag at gyllido dosbarthiadau chweched a £9 miliwn i gynnal y grant cyflawniad lleiafrifoedd ethnig.
O ran y fformiwla ariannu, mae nifer o Aelodau wedi gofyn imi am y fformiwla ariannu ar gyfer awdurdodau lleol ac addysg. Dywedaf wrthyn nhw yr hyn a ddywedaf wrth fy nghyd-Aelodau ym maes llywodraeth leol: os gall unrhyw un gyflwyno gwell fformiwla y bydd awdurdodau lleol yn cytuno arni, byddaf yn fodlon iawn derbyn hynny. Hyd yn hyn, nid ydyn nhw erioed wedi llwyddo i gyflawni'r her honno. A gaf i ddweud wrth Dawn Bowden, os bydd unrhyw arwydd o newid yng nghyllideb Canghellor y Trysorlys ar 29 Hydref sy'n gysylltiedig â chyni, byddwn ni'n defnyddio pob ceiniog o hynny, fel y gwnaethom ni y llynedd, i fuddsoddi mewn gwasanaethau ataliol ac, fel y dywedodd hi, i wneud yn siŵr nad oes rhwystrau sefydliadol yn ein hatal rhag cyflawni'r canlyniadau gorau ar gyfer cleifion ac ar gyfer defnyddwyr y gwasanaethau gofal cymdeithasol? Mae fy nghyd-Aelod, Vaughan Gething a minnau wedi cyfarfod ddwywaith yn ystod y cylch cyllideb hwn i ailddatgan ymrwymiad y Llywodraeth hon i ddefnyddio'r adnoddau sydd gennym i fuddsoddi yn y system iechyd a gofal cymdeithasol. Wrth i Aelodau weld manylion y gyllideb, byddan nhw'n gweld bod hynny wedi ei adlewyrchu ynddi.
Yn olaf, Llywydd, i ymateb i bwyntiau Julie Morgan, mae mynd i Langrannog yn ddefod yng Nghymru y bydd llawer ohonom ni yn y Siambr hon wedi cael profiad ohoni yn ein bywydau ac ym mywydau pobl eraill ac rwy'n falch iawn, drwy weithio gydag Eluned Morgan, ein bod wedi gallu dod o hyd i rywfaint o arian ychwanegol i uwchraddio'r cyfleusterau yno ac yng Nglan-Llyn.
O ran y model buddsoddi cydfuddiannol, rydym ni wedi cael cymeradwyaeth gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ac Eurostat. Mae ein model wedi ymddangos mewn llawlyfr a gyhoeddodd y Cenhedloedd Unedig yn ddiweddar, yn cynghori gwledydd ledled y byd ynglŷn â sut i gynllunio model o'r math hwn, ac roeddwn yn falch o weld bod Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, wedi cyfeirio at adeiladu ar fodel buddsoddi cydfuddiannol Cymru yng nghynlluniau Llywodraeth yr Alban i ehangu faint o gyfalaf sydd ar gael at ddibenion cyhoeddus pwysig yn y fan honno hefyd.
Rydym ni'n gwneud cynnydd da o ran Felindre. Mae yna faterion cynllunio i'w datrys. Mae yna faterion dylunio clinigol i'w datrys. Ond rydym ni'n benderfynol y bydd y model ar gael i gefnogi'r datblygiad pwysig iawn hwnnw ar gyfer gwasanaethau canser ledled de-ddwyrain Cymru.