Part of the debate – Senedd Cymru am 4:05 pm ar 2 Hydref 2018.
Gan droi at yr hyn a ddywedodd Neil Hamilton, diolch iddo hefyd am yr hyn a ddywedodd am y fframwaith cyllidol ac am yr agweddau hynny ar y gyllideb ddrafft, y prydau ysgol am ddim a sut yr ymdriniwyd â'r grant sylweddol y mae ef hefyd yn ei groesawu. Doeddwn i ddim yn cytuno ag ef, wrth gwrs, ar yr hyn a ddywedodd am y £15 miliwn ynglŷn â chyfalaf gwastraff. Rwy'n credu y bydd hynny'n arian a gaiff ei wario'n ddoeth iawn. Rydym yn gwybod pe byddem yn gallu buddsoddi mewn offer modern newydd, yno byddai'r awdurdodau lleol yn gallu ailgylchu pethau na allan nhw eu hailgylchu heddiw. Heddiw, maen nhw'n mynd i safleoedd tirlenwi. Gyda'r offer newydd ar waith, bydd yr awdurdodau lleol hynny yn gallu gwneud mwy yn y maes hwn. Dyna oedd yr achos argyhoeddiadol a gyflwynodd fy nghyd-Aelod, Lesley Griffiths, i mi yn ystod y cyfnod paratoi cyllideb, ac rwyf wedi bod yn falch iawn o allu cydnabod cryfder y ddadl a wnaeth hi. Roedd Mr Hamilton yn dyfynnu ffigur o gyfnod pan oedd Gordon Brown yn Ganghellor, a thynnodd sylw at y ffaith, pan oedd Gordon Brown yn Ganghellor, ei fod yn lleihau'r diffyg o flwyddyn i flwyddyn, ac wedyn tynnodd sylw at y ffaith ei fod wedi chwyddo allan o reolaeth o dan berfformiad presennol y Ceidwadwyr, ond ceisiodd wedyn ddweud bod hyn o ganlyniad i arbrawf sosialaidd; fe gollais fy ngallu i ddilyn ei ddadl bryd hynny. Ond yr hyn y mae'n anghywir yn ei gylch yw'r sylw a wnaeth Mike Hedges: i Neil Hamilton, mae pob gwariant yn wastraffus yn y bôn, ond, os ydych yn credu mewn ffordd sosialaidd o wneud pethau, mae gwariant yn fuddsoddiad. Mae'n creu'r amodau y gall yr economi ehangu ynddyn nhw, a phan fydd yr economi yn ehangu, bydd felly mwy o refeniw yn llifo o'r economi ehangach honno, a dyna'r ffordd y byddwch yn gallu creu cylch cadarnhaol yn hytrach na chwtogi-eich-ffordd-i-lwyddiant sydd wedi bod yn cael ei gynnig inni ers 2010 ac sydd wedi methu i gyflawni fel sydd i'w weld yn glir.
Gwnaeth Jane Hutt gyfeiriad pwysig iawn at adroddiad y Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus a'r hyn y mae'n ei ddweud wrthym ni am sut y gall trethu teg wella perfformiad economaidd ym mhob rhan o economi'r DU. Rwy'n ddiolchgar iawn iddi am yr hyn a ddywedodd am Nye Bevan. Dywedodd Bevan mai iaith blaenoriaethau yw crefydd sosialaeth, ac, yn y gyllideb hon, fe welwch chi ein hymdrech i alinio'r gwariant sydd gennym ni â'r blaenoriaethau pwysicaf i ni yma yng Nghymru. Rwy'n ddiolchgar i Jane am dynnu sylw at y £35 miliwn y gallwn ni ei rhoi yn ôl yn y grant tai cymdeithasol. Dyma un o'r pethau rwy'n fwyaf balch ohono yn y gyllideb, y byddwn ni'n gallu cynnal y buddsoddiad a wnawn ni fel Llywodraeth yn y peth pwysicaf hwnnw o ddarparu tai safonol i deuluoedd ledled Cymru sy'n canfod eu hunain yn byw mewn amgylchiadau na fyddai unrhyw un ohonom ni yn barod i'w hystyried yn foddhaol yn ein bywydau ein hunain.
Caiff cyfalaf trafodion ariannol ei adlewyrchu yn y gyllideb, ond bydd mwy, gobeithio, yng ngham terfynol y gyllideb. Rwy'n gweithio'n agos gyda fy nghyd-Aelod, y dyn sy'n taflu dŵr, Ken Skates—mae'n ddrwg gennyf, rwy'n siŵr ei fod yn ceisio peidio â thynnu sylw at hynny—[Chwerthin.]—i gyflwyno cyfres o syniadau cyfalaf am drafodion ariannol y mae ei adran ef yn enwedig yn eu datblygu mewn ffordd arloesol. Rydym ni'n gorfod defnyddio ein cyllideb ein hunain ar gyfer cronfa bontio ymadael â'r UE, ond rydym ni wedi gallu rhoi £140 miliwn o gyfalaf trafodion ariannol ym manc buddsoddi Cymru, sy'n cael ei ddefnyddio i gefnogi busnesau drwy'r broses o adael yr UE yn arbennig.
O ran y trafodaethau am bwerau dros dollau teithwyr awyr, mae arnaf ofn mai dim ond newyddion drwg sydd gennyf i'w hadrodd i gyd-Aelodau. Mae'n dda iawn bod y Pwyllgor Dethol ar faterion Cymreig wedi cyhoeddi ei ymchwiliad i hyn, oherwydd bydd yn caniatáu inni gyflwyno ein hachos eto pam na ddylai Cymru fod o dan yr anfantais unigryw o beidio â chael tollau teithwyr awyr wedi'u datganoli i ni, ond mae gennyf lythyr oddi wrth Ysgrifennydd Gwladol Cymru at sylw Prif Weinidog Cymru a anfonwyd dim ond ambell ddiwrnod yn ôl, ac, unwaith eto, mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn dweud wrthym ni na all gefnogi'r syniad hwn gan ei fod yn poeni mwy am Loegr ac am effaith hyn yno—gyda llaw, effaith y mae adroddiadau annibynnol yr ydym ni wedi eu rhoi iddo yn dweud wrtho nad yw'n bodoli. Ond mae'n poeni mwy am ei gyfrifoldebau i Fryste nag y mae am ei gyfrifoldebau i Gymru, ac mae hynny'n siomedig iawn iawn.