Safleoedd Morol

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 3 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:35, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich cwestiwn pellach. Mae meddu ar ddealltwriaeth glir iawn o gyflwr nodweddion safle, a rheoli ardaloedd morol gwarchodedig yn effeithiol, yn gwbl hanfodol, fel y gallwn gyflawni eu hamcanion cadwraeth, a chyflawni ein huchelgais—fod gennym rwydwaith o ardaloedd morol gwarchodedig a reolir yn dda iawn yng Nghymru. Fe fyddwch yn gwybod am fframwaith rheoli'r rhwydwaith ardaloedd morol gwarchodedig a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sy'n nodi'r strwythur ar gyfer gwella cyflwr y rhwydwaith o ardaloedd morol gwarchodedig yng Nghymru a'r broses o'u rheoli. A gwneir hynny ochr yn ochr â'r grŵp llywio ar reoli ardaloedd morol gwarchodedig, ac mae hynny'n mynd â ni hyd at 2023, a bydd yn parhau i fod ar waith wedi inni ymadael â'r UE. Ceir cynllun gweithredu ochr yn ochr â'r fframwaith hefyd, a bydd yn cael ei ddiweddaru'n flynyddol, a bydd yn nodi'r camau blaenoriaethol a nodwyd i gynnal a gwella cyflwr rhwydwaith yr ardaloedd morol gwarchodedig.