Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 3 Hydref 2018.
Rwy'n croesawu'r ymrwymiad hwnnw ac rwy'n ffodus i gynrychioli ardal sy'n cynnwys canran sylweddol o amgylchedd morol Cymru. Mae'r ardaloedd morol gwarchodedig yn fy rhanbarth yn gartref i rai o gynefinoedd mwyaf bioamrywiol Ewrop, ac mae'n hollbwysig eu bod yn parhau felly ar ôl Brexit. Mae llawer o'r ardaloedd morol gwarchodedig yng Nghymru mewn cyflwr anffafriol, ac mae monitro eu cyflwr yn rheolaidd yn hanfodol er mwyn deall sut y gallwn eu cynorthwyo i ffynnu. Ac ar hyn o bryd, mae'n ofynnol o dan ddeddfwriaeth Ewropeaidd inni gofnodi cyflwr a statws y safle, a chymryd camau i wneud gwelliannau lle bo angen. Rwy'n awyddus i wybod sut y caiff hyn ei lywodraethu ar ôl Brexit. Er enghraifft, a fydd corff annibynnol yn ymgymryd â'r rôl honno, ac yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif, ac yn sicrhau y cedwir at gydymffurfiaeth amgylcheddol wedi inni ymadael â'r UE?