Ardoll Cig Coch Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 3 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 1:30, 3 Hydref 2018

Wel, rydw i'n rhannu eich rhwystredigaeth chi, oherwydd rydw i'n Aelod o'r Cynulliad yma ers saith mlynedd ac rydw i'n siŵr fy mod i wedi bod yn gofyn yr un cwestiwn yn gyson ers y cyfnod yna. Ond mae undebau amaeth hefyd yn bryderus bod newidiadau yn y taliadau i ffermwyr yr ŷch chi'n eu cynnig yn 'Brexit a'n tir' yn mynd i arwain at lai o gig coch yn cael ei gynhyrchu yng Nghymru. O ganlyniad, wrth gwrs, mi fydd llai o anifeiliaid yn mynd trwy ladd-dai Cymru. Bydd hynny'n golygu bod llai o bres yn dod o gyfeiriad y lefi i hybu cig Cymru ac, o ganlyniad, bydd yna lai o hyrwyddo o'r cig hwnnw yn digwydd, ac rydych chi'n gweld y cylch dieflig ddaw yn sgil y posibiliad yna. Felly, a gaf i ofyn pa ystyriaeth sydd wedi bod o'r effaith y bydd 'Brexit a'n tir' yn ei gael ar gynhyrchu cig coch yng Nghymru? A pha sicrwydd allwch chi ei roi i'n cynhyrchwyr ni y bydd y Llywodraeth yn parhau i gefnogi'r diwydiant cig coch?