Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 3 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:50, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Os yw saethu, fel y dywed y Gweinidog, yn anfoesol ar dir cyhoeddus, mae'n rhaid ei fod yn anfoesol ar dir preifat hefyd. Felly, mae'n eithaf amlwg beth yw cyfeiriad polisi Llywodraeth Cymru yn hyn o beth, a gall pob pysgotwyr, pob saethwr, unrhyw un sy'n ymwneud â chwaraeon gwledig yn gyffredinol, ystyried Llywodraeth Cymru yn elyn pendant bellach. Blaen y gyllell yw hyn; mae gan Lywodraeth Cymru ei llygad ar bob un ohonynt.