Ardoll Cig Coch Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 3 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:33, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i Andrew R.T. Davies am ddweud y bydd yn cynorthwyo mewn unrhyw drafodaethau y gall o ran sicrhau'r gwelliant hwnnw rydym am ei weld gan y Llywodraeth i Fil Amaethyddiaeth y DU. Mewn perthynas â'r diwydiant prosesu, credaf fod ein diwydiant prosesu yn gweithio'n dda. Credaf ei fod yn asesiad deniadol iawn, ac rydym wedi cael astudiaeth ddichonoldeb, fel y gwyddoch rwy'n siŵr, o'r cyfleoedd i fuddsoddi mewn rhannau o'n gweithfeydd prosesu, nid yn unig cig, o reidrwydd, ond llaeth hefyd.

Un o'r pethau sy'n peri pryder ynglŷn â'n capasiti prosesu yw gallu gwladolion yr UE i symud. Ymwelais ag un ffatri brosesu lle roedd 80 y cant o'r staff yn wladolion yr UE. Felly mae yna bryder na fydd y staff gennym ar ôl Brexit. A sut rydych yn sicrhau bod y mathau hynny o swyddi yn fwy deniadol i bobl leol? Credaf fod hyn wedi bod yn broblem, ac mae'n rhywbeth rwy'n fwy na pharod i weithio gyda'r sector i fynd i'r afael ag ef.