Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 3 Hydref 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r duedd gynyddol i wariant cwsmeriaid newid i siopa ar-lein ac mewn parciau manwerthu ar gyrion trefi wedi arwain at gau llawer o siopau yng nghanol dinasoedd yn ne-ddwyrain Cymru. Mae melin drafod Centre for Cities wedi dweud y dylai canol dinasoedd sy'n ei chael hi'n anodd roi'r gorau i'w dibyniaeth ar fanwerthu drwy gael swyddfeydd a thai yn lle siopau. Yng Nghasnewydd, maent yn nodi bod mwy na 40 y cant o'r gofod masnachol ym maes manwerthu—mae llawer ohono yn ei chael hi'n anodd. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod dyfodol ein stryd fawr yn ymwneud â mwy na manwerthu, a pha gynlluniau sydd ganddi i newid cyfreithiau cynllunio i'w gwneud yn haws i droi siopau manwerthu yn unedau tai neu'n swyddfeydd? Diolch.