Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 3 Hydref 2018.
Ydw, rwy'n cytuno'n llwyr â chi fod angen inni ystyried defnyddiau gwahanol ar gyfer canol ein trefi, oherwydd, fel y dywedwch, mae tueddiadau siopa yn bendant wedi newid—mae mwy o bobl yn siopa ar-lein, er enghraifft. Rydym yn sicr wedi sicrhau bod y polisi cynllunio yn ddigon hyblyg i ganiatáu fflatiau uwchben siopau, er enghraifft. Ac yn amlwg, mae angen inni sicrhau bod ein trefi hefyd yn ganolog i fywyd cymdeithasol ac economaidd, er mwyn inni weld llawer mwy o economi nos yn y rhain—. A chredaf fod y polisi cynllunio yn ddigon hyblyg i ganiatáu i hynny ddigwydd.