Targed Gostwng Carbon 2030

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 3 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:05, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Ydw, yn sicr, fel pwynt cyffredinol, rwy'n cytuno â chi, a chredaf ichi wneud pwynt perthnasol iawn ynglŷn â hyn mewn dadl yr wythnos diwethaf. Ni allwch barhau i ddefnyddio tanwydd ffosil, fel y dywedwch, pan fyddwch yn edrych ar gerbydau trydan a hydrogen, er enghraifft. Yn amlwg, rwy'n bryderus ynghylch capasiti'r grid cenedlaethol beth bynnag. Rwyf wedi cael trafodaethau pryderus gyda'r Grid Cenedlaethol mewn perthynas â hyn, felly buaswn yn cytuno â chi, fel pwynt cyffredinol yn sicr.