Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 3 Hydref 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r seilwaith ar gyfer gwefru cerbydau trydan yn faes y mae gennych bŵer drosto—mater a godais gyda chi yr wythnos diwethaf, a hoffwn ddychwelyd ato. Yn ddiweddar, ymwelais â safle gorsaf wefru trydan arfaethedig ger yr A40 yn Nhrefynwy. Mae'r cynllun hefyd, yn hollbwysig, yn cynnwys dwy orsaf bŵer fechan ar y safle, felly byddai'r trydan a fyddai'n cael ei ddefnyddio yn yr orsaf wefru yn cael ei gynhyrchu'n lleol o ffynonellau adnewyddadwy, sy'n llawer mwy effeithlon a dymunol na chludo trydan a gynhyrchir gan danwydd ffosil ar hyd y grid cenedlaethol aneffeithlon. A ydych yn cytuno y dylid croesawu'r math hwn o gynllun? Mae'n debyg y bydd yn mynd drwy gyfnod cynllunio, felly nid wyf am i chi roi sylwadau ar union natur y cynllun penodol hwn, ond a fyddech yn cytuno i edrych ar ganllawiau'r Cynulliad i awdurdodau lleol er mwyn sicrhau, pan fydd cynlluniau fel hyn yn ymddangos, eu bod yn cael eu hannog, fel y gallwn gynhyrchu trydan yn lleol yn y ffordd hon, mewn ffordd a fydd yn cynorthwyo'r Llywodraeth a phob un ohonom i gyflawni ein targed 2030 i leihau allyriadau carbon?