Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 3 Hydref 2018.
Ar hyn o bryd, credaf fod oddeutu 16,000 o bobl yn derbyn taliadau uniongyrchol. Fe fyddwch yn gwybod am berfformiad rhagorol Taliadau Gwledig Cymru; ni yw'r gorau yn y DU. Credaf fod oddeutu 95 y cant o'r taliadau wedi’u gwneud ar 1 Rhagfyr. Felly byddaf yn defnyddio'r grŵp hwnnw neu'r tîm hwnnw o bobl yn fy mhortffolio, yn amlwg, pan fydd y cynlluniau ar waith gennym. Mae llawer iawn o waith i'w wneud cyn hynny, ond rwy'n hyderus fod y capasiti gennym.