Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 3 Hydref 2018.
Diolch yn fawr, Lywydd. Rwyf wedi canmol Ysgrifennydd y Cabinet sawl tro am ei hymagwedd agored tuag at ei swydd a'r modd penderfynol y mae'n dibynnu ar dystiolaeth fel sylfaen i bolisïau'r Llywodraeth. A yw'r Gweinidog yn derbyn fy siom felly ei bod wedi ymwrthod â’r ymagwedd hon mewn perthynas â saethu ar dir cyhoeddus, a gwrthdroi polisi Cyfoeth Naturiol Cymru a gyflwynwyd ym mis Gorffennaf? Onid yw'n sylweddoli'r niwed y bydd yr ymagwedd hon yn ei wneud yng nghefn gwlad, yn enwedig os caiff ei dilyn mewn mannau arall?