Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 3 Hydref 2018.
Credaf y bydd y cyhoedd yn gyffredinol o’r farn fod hwnnw’n esboniad chwerthinllyd o'r penderfyniad, oherwydd, er ei bod yn wir eich bod wedi dweud yr wythnos diwethaf fod:
'safbwynt Llywodraeth Cymru yn fater ar gyfer ystyriaeth barhaus Cyfoeth Naturiol Cymru ac nid yw'n eu rhwymo i dderbyn a chytuno â’r safbwynt hwnnw', dywedodd cadeirydd dros dro Cyfoeth Naturiol Cymru, Dr Madeleine Havard, fod Llywodraeth Cymru wedi 'rhoi arweiniad clir' o ran y cyfeiriad y dylai Cyfoeth Naturiol Cymru fynd iddo. Nid oes unrhyw reswm iddynt wneud tin-dros-ben oni bai i ufuddhau i'ch dictad. Felly, credaf y bydd y rhan fwyaf o bobl y tu allan yn credu bod eich ymateb yn un cwbl anonest.